e-Llyfr

eLyfr: Tripiau undydd - Hamdden a gwyliau yng Nghymru ddoe a heddiw.

Hamdden a gwyliau yng Nghymru ddoe a heddiw. 

Mae'r adnodd hwn yn gynnig cyfle i archwilio pam mae Cymru yn boblogaidd am dripiau undydd a gwyliau ac edrych yn agosach ar eu hamser hamdden eu hunain, gan wneud cymariaethau o'r gorffennol i'r presennol.

eLyfr: Tripiau Undydd. Hamdden a gwyliau yng Nghymru ddoe a heddiw. 

Nodiadau Athrawon: Tripiau Undydd

Ffynonellau astudio:

Astudiwch arferion hamdden o'r gorffennol trwy edrych ar gardiau post a phosteri, hanes llafar, ffotograffau a phaentiadau eiconig o Gymru. Darganfyddwch luniau o dripiau ysgol dydd Sul, gwibdeithiau gwaith a phythefnos y Glowyr – sy'n dangos i ni sut roedd pobl yn arfer ymlacio.

Cwestiynau Allweddol a Chwis:

Atebwch gwestiynau allweddol a chwblhau cwis ar yr adnoddau rydych chi'n eu darganfod.

  • Pam ein bod ni’n mynd ar dripiau undydd a gwyliau?
  • Ydy mynd ar dripiau undydd yn dda i’n hiechyd a’n lles?
  • Lle ydyn ni’n hoffi mynd a beth ydyn ni’n hoffi gwneud ar dripiau undydd?
  • Sut ydyn ni’n teimlo pan rydyn ni’n mynd ar dripiau undydd?

A yw atyniadau twristiaeth a hamdden wedi newid?

 

Cwricwlwm

Y Dyniaethau: Mae ymholi, archwilio ac ymchwilio yn ysbrydoli chwilfrydedd am y byd, ei orffennol, ei bresennol a’i ddyfodol.

eLyfr: Tripiau undydd - Hamdden a gwyliau yng Nghymru ddoe a heddiw.