Ymweliad Rhithiol

Pan oedd glo yn frenin: Gweithdy Rhithiol

Archwiliwch hanes glofaol cyfoethog de Cymru drwy ymuno â glöwr sy'n dechrau ei ddiwrnod gwaith yn Big Pit yn 1978.

Dysgwch am y cymunedau glofaol yn y cyfnod hwn a'r holl ffordd nôl i'r Chwyldro Diwydiannol. 

Pa effaith gafodd glo ar yr amgylchedd? Sut oedd bywyd plentyn oedd yn gweithio yn oes Fictoria? Sut wnaeth newidiadau technolegol wella bywydau y glowyr a'u gwragedd?

 

Hyd: 1 awr
Dyddiadau: I ganfod os oes lle, anfonwch enw'r ysgol, nifer y disgyblion a'r flwyddyn addysg, a dyddiadau dewisol at bigpit@amgueddfacymru.ac.uk neu ffoniwch (029) 2057 3650.
Tâl: I'w defnyddio yn yr ysgol - am ddim.

Cwricwlwm

Dyniaethau: Ymholi, archwilio ac ymchwilio yn annog chwilfrydedd am y byd, ei orffennol, ei bresennol a'i ddyfodol. / Mae byd natur yn amrywiol a dynamig, a dan ddylanwad prosesau a gweithgarwch dyn. 

Iechyd a lles: Mae sut fyddwn ni'n ymwneud â dylanwadau cymdeithasol yn siapio ein personoliaeth ac yn effeithio ar ein hiechyd a'n lles.

Amcanion dysgu

  • Adeiladu cnewyllyn gwybodaeth a meithrin y sgiliau i gymhwyso'r wybodaeth honno mewn gwahanol gyd-destunau drwy ddysgu am hanes y diwydiant glo.
  • Meddwl yn greadigol i ail-fframio a datrys problemau drwy ymchwilio i beryglon gweithio danddaear a chanfod ffyrdd o gadw'r glowyr yn ddiogel.
  • Datblygu dealltwriaeth o'u diwylliant, eu cymuned, eu cymdeithas a'u byd, ddoe a heddiw, drwy ddysgu am hanes meysydd glo Cymru a'u heffaith ehangach.
  • Cymhwyso gwybodaeth am effaith diet ac ymarfer corff ar iechyd corfforol a meddyliol drwy ddysgu am fywyd bob dydd plentyn oedd yn gweithio yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Gweithdy Rhithiol

Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru

Sut i archebu

I archebu neu i drafod y sesiwn ffoniwch (029) 2057 3650