Ymweliad Rhithiol

Gweithdy Rhithiol: Chwilfrydig am Ddeinosoriaid?

Oedd pob deinosor yn rhuo? Ymunwch ag un o'n hwyluswyr ar-lein i edrych ar ffosilau amgueddfa go iawn. Bydd cyfle i chi ofyn cwestiynau chwilfrydigdysgu mwy am ddeinosoriaid, gan gynnwys beth fydden nhw'n ei fwyta, sut fydden nhw'n byw, eu hamgylchfyd a'u cynefinoedd. I gloi, gallwch chi gymryd rhan mewn stori fywiog, swnllyd, am fforest yn oes y deinosoriaid 

I archebu a siarad â rhywun am y sesiwn hon, ffoniwch (029) 2057 3240 neu ebost learning@museumwales.ac.uk

Hyd: 1 awr
Tâl: I'w defnyddio yn yr ysgol - am ddim.

Cwricwlwm

Gwyddoniaeth a Thechnoleg

  • Mae bod yn chwilfrydig a chwilio am atebion yn hanfodol i ddeall a rhagfynegi ffenomenau.
  • Mae’r byd o’n cwmpas yn llawn pethau byw sy’n dibynnu ar ei gilydd i oroesi.

Y Dyniaethau

  • Mae ymholi, archwilio ac ymchwilio yn ysbrydoli chwilfrydedd am y byd, ei orffennol, ei bresennol a’i ddyfodol.

Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu

  • Mae mynegi ein hunain drwy ieithoedd yn allweddol i gyfathrebu.
  • Mae llenyddiaeth yn tanio’r dychymyg ac yn ysbrydoli creadigrwydd.
Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Sut i archebu

I archebu neu i drafod y sesiwn ffoniwch (029) 2057 3240 neu e-bostiwch addysg@amgueddfacymru.ac.uk