Ymweliad Rhithiol

Gweithdy Rhithiol: Archwilio Deinosoriaid

Gweithiwch gydag un o'n hwyluswyr i ganfod ffosilau ac esgyrn go iawn, dysgu sut i feddwl fel palaeontolegydd, a datrys cyfres o bosau deinosoriaid. Gyda'r sgiliau hyn, gallwch chi astudio deinosor Cymreig – y Dracoraptor! Byddwch chi'n defnyddio gwybodaeth wyddonol i ddysgu sut cafodd y deinosor ei ganfod, sut fyddai'n byw ac ymhle, sut fyddai'n bwyta a sut olwg oedd arno 

I archebu a siarad â rhywun am y sesiwn hon, ffoniwch (029) 2057 3240 neu ebost learning@museumwales.ac.uk

Hyd: 1 awr
Tâl: I'w defnyddio yn yr ysgol - am ddim.

Cwricwlwm

Gwyddoniaeth a Thechnoleg

  • Mae bod yn chwilfrydig a chwilio am atebion yn hanfodol i ddeall a rhagfynegi ffenomenau.
  • Mae’r byd o’n cwmpas yn llawn pethau byw sy’n dibynnu ar ei gilydd i oroesi.

Y Dyniaethau

  • Mae ymholi, archwilio ac ymchwilio yn ysbrydoli chwilfrydedd am y byd, ei orffennol, ei bresennol a’i ddyfodol.

Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu

  • Mae mynegi ein hunain drwy ieithoedd yn allweddol i gyfathrebu.
Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Sut i archebu

I archebu neu i drafod y sesiwn ffoniwch (029) 2057 3240 neu e-bostiwch addysg@amgueddfacymru.ac.uk