Creu a Gwneud

Gwydredd Crac

Creu celf wedi’i ysbrydoli gan Picasso, gyda effaith gwydredd cracl syml.

Bydd agen:

Papur

Creonau cwyr neu gannwyl

Bowlen o ddŵr

Paent (un lliw)

Brwsh paent

Glud PVA (dewisol)

Cyfarwyddiadau:

1. Cymerwch eiliad i edrych ar fâs Picasso. Ystyriwch y marciau a meddyliwch sut y gallech chi ymgorffri’r rhain mewn dyluniad newydd.

2. Rhyddhewch eich Picasso mewnol! Gan ddefnyddio creonau cwyr, crëwch dyluniad ceramig eich hun. Awgrym: Rhowch digon o bwysau ar y creon a sichrhewch fod y cynllun i gyd wedi’i orchuddio.

3. Ar ôl gorffen, roliwch y papur i mewn i bêl, yna ei fflatio eto. Rydyn ni eisiau creu crychiau yn y papur.

4. Gan ddefynyddio paent wedi’i wanhau gyda dŵr, rhowch haenen dros eich cynllun wedyn gadael iddo sychu.

5. Ar ôl iddo sychu, gallwch chi ddodi haenen o glud PVA arno, i greu effaith gwydredd.

Llun o wyneb haniaethol yn arddull Pablo Picasso

Adnoddau

Cyffredinol

Gwydredd Crac