Creu a Gwneud

Monet Mwdlyd

Cewch eich ysbrydoli gan liliau dŵr Claude Monet!

Bydd angen:

Plât papur neu gylch papur/cerdyn

Casau cacen cwpan

Paent

Glud

Cyfarwyddiadau:

1. I greu cefndir, addurnwch eich plat gyda phaent. Falle trio paentio bysedd! Defynyddiodd Monet paentiau lliw gwyn, melyn, oren, glas, gwyrdd a coch.

2. Gwasgwch eich casau gacen cwpan yn fflat, ac addurnwch nhw gydag eich hoff liwiau blodau dŵr.

3. Gosodwch eich blodau ar y plat pwll dŵr. Efallai allwch addurno canol y blodau gyda phapur sidan.

Paentiad olew o lilïau dŵr gan Claude Monet
Paentiad plentyn o lilïau dŵr wedi'i wneud gan ddefnyddio plât papur a chasys cacen cwpan

Adnoddau

Cyffredinol

Monet Mwdlyd