Llwybrau Amgueddfa

Adnodd Saesneg i ddysgwyr i'w ddefnyddio yn Amgueddfa Lechi Cymru

Beth am ddefnyddio ein hadnoddau addysg ESOL (Saesneg ar gyfer Siaradwyr Ieithoedd Eraill) i'ch helpu chi i archwilio’r amgueddfa, ei horielau a'i chasgliadau?  

Gall ein hadnoddau eich helpu chi i fwynhau eich ymweliad wrth ymarfer eich Saesneg. 

Mae croeso i chi lawrlwytho ac argraffu copïau a dod â nhw gyda chi.  
Defnyddiwch yr adnoddau i ategu ymweliadau hunan-dywys yn yr amgueddfa, ac yn yr ystafell ddosbarth, cyn ac ar ôl ymweld â ni. Mae adnoddau i athrawon ar gael i'w lawrlwytho hefyd ar gyfer pob adnodd addysg.  

Mae ein hadnoddau wedi'u creu yn arbennig i ddysgwyr ESOL gan diwtoriaid a myfyrwyr ESOL ar y cyd ag Addysg Oedolion Cymru yn rhan o'n harlwy Addysg i Oedolion. 

Fron Haul – Tai’r Chwarelwyr

Amgueddfa Lechi Cymru

Sut i archebu

I archebu neu i drafod y sesiwn ffoniwch (029) 2057 3702