Lleisiau’r Amgueddfa

Yn 2012 dyma adran addysg Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru yn cydweithio â disgyblion Ysgol Gyfun y Coed Duon ac aelodau Grŵp Darllen Caerllion ar broject 'Lleisiau’r Amgueddfa'. Bwriad y project oedd annog y grwpiau i ddewis gwrthrychau o’r arddangosfeydd oedd yn eu denu, i drafod y rhesymau dros ddewis y gwrthrychau ac i feddwl am y berthynas rhyngddynt a’u bywyd bob dydd.

Gobeithio y bydd y sgyrsiau yn ffordd o edrych o’r newydd ar rai o’r gwrthrychau yn ein casgliad. Gyda’r y delweddau mae disgrifiadau o’r gwrthrychau yn rhoi gwybodaeth bellach.

Gwnaed y recordiadau yma i gyd yn Saesneg.