Adolygiad Blynyddol
Adolygiad Blynyddol 2022-23
Diolch o galon i bawb sydd wedi ymweld â ni, ein cefnogi ni, neu wedi gweithio gyda ni eleni. Mae ein staff yn gweithio'n galed i sicrhau bod ein teulu o amgueddfeydd ledled Cymru yn aros ar agor ac yn ddiogel i groesawu ein hymwelwyr. O fis Ebrill 2022 i fis Mawrth 2023, rydyn ni wedi meithrin ein perthynas gyda phobl a phartneriaid, gan ddatblygu gweithgareddau gwych a chreu ffyrdd newydd i'n hymwelwyr ymgysylltu ag Amgueddfa Cymru.
Mae ein Hadolygiad Blynyddol 2022-23 yn arddangos ein llwyddiannau ac uchafbwyntiau dros y flwyddyn, ac ar gael ar sawl ffurf hygyrch. Cymerwch gip drwy glicio ar y llun i'r chwith a dolenni isod:
Adolygiad Blynyddol 2022-2023 (PDF - ffeithlun)Adolygiad Blynyddol 2022-2023 (PDF - fersiwn Hawdd ei ddeall)
Fersiwn BSL
Fideo