Ail-ddweud Stori'r Cymoedd

Project ymgysylltu drwy gelf a threftadaeth yw Ail-ddweud Stori'r Cymoedd sy'n canolbwyntio ar ddarganfod a rhannu gwybodaeth a dehongliadau newydd gyda thrigolion y Cymoedd. Y weledigaeth hirdymor yw creu casgliad cenedlaethol o gelf sy'n adlewyrchu pobl, diwylliant a hunaniaeth y Cymoedd, yn adnodd hygyrch, gwerthfawr i'r dyfodol. Daw'r nawdd gan Gronfa Gasgliadau Esmée Fairbairn, drwy'r Museums Association.

Mae Amgueddfa Cymru wedi ymestyn y project cydweithredol hwn tu hwnt i'r rhwydwaith o ysgolion a chymunedau, er mwyn creu gweledigaeth gadarn ar y cyd ag Amgueddfa Castell Cyfarthfa ac Ymddiriedolaeth Amgueddfa Cwm Cynon – dwy amgueddfa gydnabyddedig yng nghalon y Cymoedd. Drwy gydweithio mae'r bartneriaeth wedi agor llygaid i rannu casgliadau, datblygu strategaeth eirioli a meithrin perthynas waith gadarn â chymunedau ac ysgolion.

Gollage o ddelweddau o brosiect Stori'r Cymoedd, gan gynnwys hunlun o Klara Sroka

Rhwng Hydref a Rhagfyr 2021 cynhaliwyd arolwg o weithiau celf gan y tair amgueddfa, gan gasglu ynghyd gannoedd o eitemau sydd wrthi'n cael eu trefnu a'u gwneud yn hygyrch i’r grwpiau ymgysylltu: Ysgol Gynradd Dowlais, Grŵp Celf Dowlais, Painting4fun, Coleg y Cymoedd ac Elusen Pwll Lee Gardens. Mae'r fenter yn cwmpasu plant derbyn, CA5, pobl dros 40 oed a phobl hŷn. Mae blog a vlog wedi cael eu cyhoeddi ar-lein a'u rhannu gyda'r amgueddfeydd partner, yn ogystal â chynllun gwerthuso sy'n gobeithio amlinellu effaith meintiol ac ansoddol cymdeithasol y fenter.

Logos ar gyfer yr Esmee Fairbairn Collections Fund, Amgueddfa Cwm Cynon a Castell ac Oriel Gelf Cyfarthfa