Project Ail-fframio Picton

Beth yw Ail-fframio Picton?

"Un nod ar gyfer yr arddangosfa hon oedd creu gofod llawn cydwybod, nid lle i wthio syniadau. Lle i agor sgwrs rhwng amgueddfeydd, y llywodraethau sy'n eu hariannu, a'r cymunedau mae nhw'n eu gwasanaethu. Lle i fynd i'w afael â thrawma mewn ffordd iach. Rydyn ni'n gobeithio bydd yr arddangosfa hon yn annog ymwelwyr o bob cefndir i wrando a dysgu o'r gorffennol, ac i roi'r hyn maen nhw'n ei ddysgu ar waith heddiw." Tîm project Ail-fframio Picton .

Project dan arweiniad y gymuned yw Ail-fframio Picton, wedi'i greu ar y cyd gan Gynhyrchwyr Amgueddfa Cymru a Rhwydwaith Arweinwyr Ifanc y Panel Cynghori Is-Sahara (SSAP). Agorodd arddangosfa Ail-fframio Picton yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn Awst 2022 a bydd hi'n cau ar 12 Ionawr 2025.

Dechreuodd y daith yn 2020, yn ystod protestiadau Mae Bywydau Du o Bwys yn dilyn llofruddio George Floyd, a dymchwel cerflun y masnachwr caethweision, Edward Colston, gan brotestwyr ym Mryste.

Gweithiodd tîm y project gyda churaduron yr Amgueddfa i ddarparu rhagor o wybodaeth a chyd-destun am hanes yr Is-gadfridog Syr Thomas Picton o Hwlffordd (1758-1815), a gwaddol ei gyfnod fel llywodraethwr Trinidad ar droad y 19eg ganrif. ⁠Mae hyn yn cynnwys ei driniaeth giaidd o bobl Trinidad, gan gynnwys arteithio Lusia Calderon, merch 14 oed – gwybodaeth oedd ddim yn rhan o ddehongliad gwreiddiol yr Amgueddfa o'r portread.

Arddangosfa Ailfframio Picton

Beth sydd i’w weld yn yr arddangosfa?

Er mwyn adrodd stori Picton mewn mwy o fanylder, edrychodd tîm y project ar amrywiaeth o wrthrychau o gasgliadau Amgueddfa Cymru. Ymhlith y gwrthrychau yn yr arddangosfa mae:

  • trawsgrifiad newydd ei gaffael o achos llys Picton ym 1806
  • medalau gwrthgaethwasiaeth a gynhyrchwyd i gefnogi'r mudiad ym Mhrydain Fawr yn niwedd y 18fed ganrif
  • medal o Eisteddfod Caerfyrddin 1819 a enillwyd gan Walter Davies am ei farwnad i Thomas Picton.⁠

Yn ogystal ag arddangosfa am Picton, comisiynodd tîm y project waith gan ddau artist i ddod yn rhan o'r casgliad cenedlaethol. Mae'r gweithiau yn ail-fframio gwaddol Picton ac yn rhoi llais i'r bobl sydd wedi eu heffeithio fwyaf gan ei weithredoedd, a'r bobl sy'n byw gyda'r effeithiau heddiw. ⁠

Ymgynghorodd tîm project Ail-fframio Picton gyda'r elusen celfyddydau ac addysg annibynnol Culture& ar wahanol ffyrdd o fynd ati i ail-arddangos y paentiad.

Yr artistiaid comisiwn

'The Wound is a Portal' gan Gesiye

Gesiye

Artist amlddisgyblaethol o Drinidad a Thobago yw Gesiye (ge-si-e). Mae ei gwaith gydag unigolion a chymunedau yn trafod storia, cyswllt ac iacháu mewn sawl cyfrwng, ac wedi cael ei ysbrydoli gan gariad a pharch dwfn at y tir

Mae ei chomisiwn, Mae'r Briw yn Borth yn defnyddio catharsis y broses o gael tatŵ i drafod trawma yn ymwneud â'r tir, ac mae'r gosodwaith yn cynnwys cyfres o bortreadau a ffilm fer.

Mae pob tatŵ yn y gwaith sy'n pontio'r cenedlaethau yn cyfuno i greu animeiddiad stop-motion, gan rymuso a rhoi pwrpas o'r newydd, ac yn fodd o ail-gysylltu â'ch hun, eich gilydd, a'r tir.

Darllenwch eiriau Gesiye am y comisiwn yn ei blog, ‘On Portals’

'Spirited' gan Laku Neg

Laku Neg

Cynrychiolir Laku Neg (Iard Ddu yn iaith Kwéyòl Haiti) gan bedwar artist o dras Trinidadaidd sy'n byw ac yn gweithio yn y DU. Mae'r grŵp yn hyrwyddo mynegi gwybodaeth diaspora Affrica drwy'r celfyddydau.

Gosodwaith ymdrochol yw 'Spirited' – tapestri o atgofion a deall sy'n cynnwys cerflun metel, papur wedi'i droi, gwrthrychau wedi'u canfod ac elfennau gweledol.

Ysbrydolwyd y gwaith hwn gan draddodiadau, arferion ac estheteg Ol' Mas' Carnifal Trinidad a Thobago. Mae'r comisiwn yn ail-gyflwyno Louisa, Thisbe a Present, merched ifanc a ddioddefodd dan awdurdod creulon Thomas Picton yn Trinidad.

Darllenwch eiriau Laku Neg am y comisiwn yn eu blog 'Spirited'

Pwy oedd Picton a pwy oedd Lusia?

Mae Picton yn ffigwr dadleuol oedd yn enwog am ei greulondeb yn ystod ei oes ei hun, a chafodd y llysenwau 'Teyrn Trinidad' a'r 'Llywodraethwr Gwaedlyd' o ganlyniad i'w ddull o lywodraethu a'i driniaeth o gaethweision.

Merch rydd o dras mulatto oedd Luisa, gafodd ei chyhuddo o ddwyn. Dioddefodd Luisa artaith o'r enw 'picedu' – cafodd ei hongian o sgaffald gerfydd ei garddwrn am bron i awr, gyda'i phwysau i gyd yn gorffwys ar bigyn pren miniog.

Y portread o Picton

Mae portread dwy fetr o Syr Thomas Picton gan yr artist Syr Martin Shee wedi bod yn rhan o gasgliadau Amgueddfa Cymru ers ei sefydlu ym 1907. Roedd yn un o'r paentiadau cynharaf i ddod yn rhan o gasgliad yr Amgueddfa ac mae wedi cael ei arddangos bron yn barhaus yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ers dros gan mlynedd.

Yn arddangosfa ⁠ Ail-fframio Picton mae'r portread wedi'i ddangos mewn ffrâm deithio, gan gyfeirio at y broses o'i symud o oriel Wynebau Cymru i'r orielau Celf Hanesyddol yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd er mwyn cyflwyno'r gwaith gyda rhagor o gyd-destun.

Rhagor o wybodaeth:

  • Mae Bywydau Du o Bwys - araith o agoriad arddangosfa Ail-fframio Picton ⁠yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
  • Ail-fframio Picton – o syniad i arddangosfa
  • Thomas Picton gan Ameer Rana Davies (gydag isdeitlau Saesneg)
  • Yr Is-gadfridog Syr Thomas Picton (1758-1815) gan Syr Martin Archer Shee