Fframwaith Moesegol Amgueddfa Cymru

Nod Amgueddfa Cymru yw gweithredu mewn modd moesegol a chyda chyfrifoldeb cymdeithasol, gan ddylanwadu’n bositif ar gymdeithas yn unol â’i bwriad elusennol o ‘hyrwyddo addysgu’r cyhoedd’.

Mae dysgu, rhagoriaeth, proffesiynoldeb a gwasanaeth cyhoeddus ymhlith gwerthoedd craidd y sefydliad ers y cychwyn cyntaf, ac er bod cryn dipyn wedi newid ers 1907, mae’r gwerthoedd hyn yn dal yn bwysig ac wrth wraidd ein diben. Er mwyn gwireddu’n Gweledigaeth o fod yn ‘amgueddfa ddysg o safon ryngwladol’, cyflwynodd Amgueddfa Cymru werthoedd newydd yn 2006 gan gynnwys bod yn arloesol, perthnasol, cynaliadwy, amrywiol a heriol. Mae’r holl werthoedd hyn yn cael eu hadlewyrchu yn y Fframwaith Cyfrifoldeb Cymdeithasol.

Gyda’i saith amgueddfa genedlaethol a’i chanolfan gasgliadau, caiff Amgueddfa Cymru ei achredu drwy gynllun sy’n pennu safonau y cytunir arnynt yn genedlaethol i amgueddfeydd y DU. Sefydlwyd y Cynllun Cofrestru Amgueddfeydd ym 1988 ac ers hynny mae wedi helpu amgueddfeydd ar draws y DU i ganolbwyntio ar safonau a chlustnodi ardaloedd lle gellir gwella. Yn 2004, ailenwyd y cynllun yn Safon Achredu er mwyn rhoi gwell adlewyrchiad o’i rôl. Caiff ei ystyried yn un o’r datblygiadau mwyaf arloesol ac effeithiol yn y sector amgueddfeydd, wedi arwain y ffordd wrth godi safonau amgueddfeydd yn y DU a chael ei ddefnyddio fel model ac ysbrydoliaeth ar gyfer cynlluniau tebyg dramor. Gweinyddir y cynllun gan Gyngor Celfyddydau Lloegr mewn partneriaeth â CyMAL yng Nghymru. Datblygwyd y Safon Achredu yn ddiweddar er mwyn adlewyrchu newidiadau’r oes a helpu amgueddfeydd i gryfhau trwy gynllunio at y dyfodol yn effeithiol, cydbwyso elfennau rheoli casgliadau ac annog to pob amgueddfa i ymateb i ofynion a disgwyliadau.

At hynny, fel aelod sefydliadol o Gymdeithas yr Amgueddfeydd (MA) a’r Cyngor Amgueddfeydd Rhyngwladol (ICOM) rydym yn glynu at Gôd Moeseg y ddau sefydliad, ac mae’r ddau yn diffinio safonau sy’n aml yn uwch na’r hyn sy’n ofynnol yn gyfreithiol.

Mae gennym bolisau penodol i lywio dulliau caffael, codi arian phrynu stoc siopau sy’n foesegol a chynaliadwy.