Safonau’r Gymraeg a Pholisi Iaith Amgueddfa Cymru

Mae Amgueddfa Cymru yn ymroi i gydymffurfio â Safonau’r Gymraeg a osodir gan Lywodraeth Cymru dan Adran 4A Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011.

Mae’r Safonau hyn yn gosod disgwyliadau pendant arnom i gynnig gwasanaethau Cymraeg i’r cyhoedd ac i hybu’r defnydd o’r Gymraeg.

Hyd yn hyn rydyn ni wedi adrodd yn flynyddol ar weithrediad ein Cynllun Iaith. O hyn allan, byddwn yn paratoi ac yn cyhoeddi adroddiadau blynyddol ar ein cydymffurfiad gyda’r Safonau Iaith.

Polisi Iaith

Rydym ni wedi llunio Polisi Iaith er mwyn sicrhau ein bod fel corff cyhoeddus yn cydymffurfio â’r Safonau ac yn hyrwyddo’r Gymraeg.

Polisi Iaith (PDF)

Safonau’r Gymraeg

Mae’r ddogfen hon yn nodi pa Safonau y mae’n rhaid i Amgueddfa Cymru gydymffurfio â nhw.

Hysbysiad Cydymffurfio (PDF)

Adroddiad Monitro Blynyddol

Bob blwyddyn, byddwn yn cyhoeddi adroddiad sy’n esbonio sut rydym yn cydymffurfio â’r safonau iaith, ynghyd â datblygiadau eraill ynghylch y Gymraeg a’n gwaith.

Adroddiad Monitro Blynyddol y Gymraeg 2022/23

Adroddiad Monitro Blynyddol y Gymraeg 2021/22

Adroddiad Monitro Blynyddol y Gymraeg 2020/21

Adroddiad Monitro Blynyddol y Gymraeg 2019/20

Adroddiad Monitro Blynyddol y Gymraeg 2018/19

Adroddiad Monitro Blynyddol y Gymraeg 2017/18

Zoom – Canllawiau ar gyfer defnyddio cyfieithu ar y pryd

Rydym wedi cynhyrchu canllawiau er mwyn defnyddio cyfieithydd ar y pryd gyda system fideogynadledda Zoom. Cawsant eu dylunio ar gyfer cyfarfodydd Amgueddfa Cymru ond mae croeso i chi eu defnyddio er mwyn hwyluso cyfarfodydd neu ddigwyddiadau dwyieithog. Cofiwch eu defnyddio law yn llaw â chanllawiau diogelwch ar gyfer Zoom.

Zoom - canllawiau ar gyfer defnyddio cyfieithu ar y pryd (PDF)