Swyddi yn Amgueddfa Cymru

casgliadau Molysgiaid
Staff Amgueddfa Cymru

Os ydych am gael blas ar hanes a diwylliant Cymru, go brin y cewch chi unrhyw le gwell na’r Amgueddfeydd Cenedlaethol. Mae saith amgueddfa i gyd, yn ogystal â chanolfan gasgliadau, wedi’u gwasgaru ar hyd a lled y wlad, a phob un ohonynt yn canolbwyntio ar ein treftadaeth amrywiol a chyfoethog. Darllenwch ragor amdanom a’r gwaith yr ydym yn ei wneud.

Ydych chi awydd gweithio i ni? Rydym yn hyrwyddo amrywiaeth a chyfleoedd cyfartal, ac rydym yn croesawu ceisiadau o bob rhan o’r gymuned.

Hysbysiadau Swyddi

Os nad yw eich swydd ddelfrydol ar gael ar hyn o bryd, cofrestrwch eich manylion er mwyn clywed pan fydd swyddi newydd ar gael!

Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw am ddeuddeg mis a'u defnyddio ar gyfer Hysbysiadau Swyddi yn Amgueddfa Cymru yn unig. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, gallwch gysylltu â Mr Neil Wicks, Swyddog Diogelu Data, Amgueddfa Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NP neu dros e-bost, dpo@amgueddfacymru.ac.uk. Hysbysiad Preifatrwydd Cysylltwch â ni yn AD@amgueddfacymru.ac.uk

Buddion i Staff

Rydym yn cynnig ystod eang o fuddion, gan gynnwys:

  • Cynllun pensiwn hael gan gynnwys cyfraniad o 21.3% gan y cyflogwr
  • Polisi aswiriant bywyd nad oes angen cyfrannu ato
  • Hawl i wyliau blynyddol hael: 27 diwrnod, yn codi i 32 diwrnod ar ôl 5 mlynedd
  • Hawl estynedig i absenoldeb mamolaeth, tadolaeth a mabwysiadu
  • Ystod eang o gyfleoedd hyfforddi a datblygu proffesiynol

Darllenwch ragor am darllenwch ein canllaw ar lefelau’r Gymraeg.

Y Gymraeg

Rydym wedi ymrwymo i gefnogi a dathlu’r Gymraeg. Mae rhai o’n swyddi yn gofyn i’r ymgeisydd feddu ar lefel benodol o sgiliau yn y Gymraeg. Os nad ydych yn sicr beth yw lefel eich Cymraeg ar hyn o bryd, darllenwch ein canllaw ar lefelau’r Gymraeg.

Cyfleoedd i Wirfoddoli

Heblaw ein swyddi gwag, rydym hefyd yn cynnig nifer o gyfleoedd diddorol eraill, gan gynnwys Gwirfoddoli, Lleoliadau Gwaith ac aelodaeth o’n Fforwm Ieuenctid. Mae sawl ffordd y gallwch gyfrannu at ein gwaith.

Ein cyfleoedd gwirfoddoli presennol

 

 

Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr
Mind Cymru logo