Canllaw ar gyfer lefelau iaith Gymraeg

Safonau iaith Gymraeg

Am ragor o wybodaeth, darllenwch ein Safonau iaith Gymraeg.

Lefel Mynediad – A1

  • Gallu deall a defnyddio ymadroddion llafar syml pob dydd.
  • Gallu eich cyflwyno eich hun ac eraill ar lafar, gallu gofyn ac ateb cwestiynau am wybodaeth syml, e.e. ble mae rhywun yn byw a gweithio, beth maen nhw’n hoffi ei wneud, gallu trafod manylion personol, amserau a rhifau.
  • Gallu deall testunau ysgrifenedig byr lle mae pobl yn rhoi gwybodaeth bersonol syml amdanynt eu hunain neu eraill, e.e. ar ffurflenni.
  • Trosglwyddo neges ysgrifenedig syml neu wneud cais syml, e.e. trwy e-bost.

Lefel Sylfaen – A2

  • Gallu deall brawddegau pan fydd pobl yn siarad yn araf am sefyllfaoedd pob dydd, e.e. gwybodaeth bersonol a theuluol syml, trafod materion syml am y gwaith gan gynnwys beth mae pobl wedi ei wneud neu’r hyn y bydden nhw’n ei wneud.
  • Gallu cynnal sgwrs syml am bynciau cyffredin e.e. pethau sydd wedi digwydd neu gynlluniau yn y dyfodol.
  • Gallu deall negeseuon ysgrifenedig am bethau bob dydd a llythyron/negeseuon e-bost syml.
  • Gallu ysgrifennu negeseuon byr at gydweithwyr e.e. i drosglwyddo neges.

Lefel Ganolradd – B1

  • Gallu deall y prif bwyntiau pan fydd rhywun yn siarad am bynciau bob dydd o fewn a thu allan i’r gweithle, neu pan fydd materion gwaith yn cael eu trafod, e.e. mewn sgwrs, neu mewn cyfarfod grŵp bach.
  • Gallu cynnal sgwrs estynedig â siaradwr rhugl am bwnc cyfarwydd sy’n ymwneud â bywyd pob dydd, e.e. diddordebau, teithio, neu bynciau sy’n ymwneud â’r gwaith yn uniongyrchol.
  • Gallu disgrifio profiadau a digwyddiadau, gobeithion ac uchelgeisiau, a rhoi esboniadau a rhesymau cryno dros eich barn.
  • Gallu deall erthyglau neu negeseuon e-bost uniongyrchol am bynciau pob dydd neu bynciau’n ymwneud â’r gwaith.
  • Gallu ysgrifennu llythyr/e-bost ar y rhan fwyaf o bynciau e.e. gofyn am bethau, rhoi gwybodaeth, gwahodd rhywun neu drefnu digwyddiad.

Lefel Uwch – B2

  • Gallu dilyn y rhan fwyaf o sgyrsiau neu drafodaethau fel arfer, hyd yn oed am bynciau anghyfarwydd, oni bai bod rhywun yn siarad ag acen gref, anghyfarwydd, e.e. mewn cynhadledd neu’n siarad am bwnc technegol neu arbenigol iawn.
  • Gallu siarad yn hyderus â siaradwyr rhugl am bynciau cyfarwydd sy’n ymwneud â bywyd pob dydd neu’r gwaith, ac yn gallu mynegi barn, cymryd rhan mewn trafodaeth, a siarad yn helaeth am bynciau cyffredin, e.e. mewn cyfarfod, neu mewn sefyllfa un i un.
  • Gallu deall y rhan fwyaf o ohebiaeth, erthyglau papur newydd ac adroddiadau sydd wedi eu bwriadu ar gyfer siaradwyr rhugl, gyda chymorth geiriadur, a sganio trwy destunau hir i gael hyd i fanylion.
  • Gallu ysgrifennu erthyglau byr, llythyrau busnes neu adroddiadau am amrywiaeth o bynciau cyffredinol eu natur, neu sy’n ymwneud â’r gwaith, ac ymateb yn gywir i’r rhan fwyaf o ohebiaeth gan gysylltwyr mewnol neu allanol. Byddai angen cymorth golygyddol.

Lefel Hyfedredd – C1

  • Deall yn hawdd popeth sy’n cael ei glywed neu ei ddweud.
  • Siarad yn estynedig am faterion cymhleth, cyflwyno dadleuon, ac arwain trafodaethau.
  • Crynhoi gwybodaeth o wahanol ffynonellau llafar ac ysgrifenedig, ail-greu dadleuon a disgrifiadau mewn cyflwyniad cydlynus.
  • Eich mynegi eich hun yn rhugl ac yn fanwl, gan addasu arddull eich iaith yn ôl y gynulleidfa, e.e. mewn cyd-destun ffurfiol neu anffurfiol.