Ar Wyneb Daear

Ydych chi erioed wedi cyffwrdd â gwrthrych o'r gofod? Bellach, gall disgyblion ysgolion uwchradd yng Nghymru ddysgu mwy am feteorynnau, difodiannau torfol a chreigiau ar y Ddaear, y Lleuad a Mawrth gan ddefnyddio sbesimenau go iawn.

Gallant hefyd roi cynnig ar greu craterau ardrawiadau unrhyw le yn y byd, gan ddefnyddio rhaglen gyfrifiadurol newydd. Pam na rhoi cynnig arni eich hunan?

Gall ysgolion benthyg

meteorynnau, creigiau o Ddaear, y Lleuad a Mawrth a ffosilau deinosaur gan Amgueddfa Cymru - Casgliad Gwaith Allanol Amgueddfa Genedlaethol Cymru. Gyda phob un o'r setiau trafod ceir cynlluniau gwersi ar gyfer athrawon gwyddoniaeth.

'Wrth drafod meteorynnau go iawn ac archwilio hanes digwyddiadau dramatig fel difodiant torfol y deinosoriaid, bydd plant yn deall pa mor gyffrous y gall gwyddoniaeth a mathemateg fod.'

Sut i fenthyca deunydd

Am fwy o wybodaeth: jana.horak@museumwales.ac.uk