Sut i Archebu - Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru

Archebu Lle

Rhaid archebu bythefnos ymlaen llaw. Ffoniwch (029) 2057 3650 i gadw lle. (Llun–Gwen, 9am—4pm). Ar ôl i chi archebu, byddwn yn e-bostio cadarnhad, ac amserlen ymweliad atoch chi. Gwiriwch hwn yn ofalus.

Gallwn groesawu uchafswm o 90 ym mhob grŵp bob diwrnod.

Neilltuwch o leiaf 3 awr ar gyfer eich ymweliad.

Bydd cyfle i chi:

Ymweld â’r Baddondai Pen Pwll sy'n gartref i bedwar gofod arddangos ac yn defnyddio gwrthrychau a delweddau sy'n adrodd hanes y diwydiant glo yng Nghymru. Mae’r themâu yn cynnwys plant mewn pyllau glo, iechyd, bywyd cartref a chymunedau glofaol.

Crwydro’r safle, gan edrych ar adeiladau hanesyddol (o'r tu allan) a mwynhau Tirlun Diwydiannol Blaenafon.

Cerdded drwy Brenin Glo: Y Profiad Cloddio ac edrych ar offer cloddio cyfoes yn Orielau Cloddio Big Pit.

Prisau

Codir tâl am sesiynau sy'n cyd-fynd â'r cwricwlwm, a sydd dan arweiniad staff yr amgueddfa. Mae pedwar pris gwahanol (heb gynnwys TAW):

  • Sesiwn hyd at awr o hyd ar gyfer hyd at 15 disgybl – £40
  • Sesiwn hyd at awr o hyd ar gyfer hyd at 35 disgybl – £60
  • Sesiwn hyd at hanner diwrnod ar gyfer hyd at 35 disgybl – £100

Mae grwpiau Anghenion Addysgol Arbennig yn gymwys ar gyfer sesiynau am ddim.

Anfonir anfoneb i’ch ysgol ar ôl diwrnod yr ymweliad.  Nid yw’r prisiau yn cynnwys TAW ond gall y rhan fwyaf o ysgolion ei hawlio’n ôl gan eu Hawdurdod Lleol.

Canslo

Os caiff ymweliad ei ganslo wedi 10am ar y diwrnod blaenorol, neu os yw grŵp yn hwyr yn cyrraedd ac yn colli eu sesiwn, bydd yn rhaid talu’r pris llawn. Gellir codi tâl trafod o £25 am ganslo neu newid archeb.​ Os yw eich amgylchiadau’n newid, cysylltwch â ni cyn gynted â phosibl er mwyn i ni roi eich lle i grŵp arall. Ffoniwch (029) 2057 3650, a gadael neges ar y peiriant ateb os yw'r llinell yn brysur.

Cofiwch fod angen yr wybodaeth ganlynol wrth archebu’ch lle

  • Enw’ch ysgol / sefydliad
  • Cyfeiriad
  • Cod post
  • Rhif ffôn
  • Cyfeiriad e-bost
  • Enw’r athro / arweinydd y grŵp
  • Nifer y myfyrwyr
  • Ystod oedran
  • Oes gan unrhyw ddisgyblion anghenion ychwanegol y dylem wybod amdanynt?
  • Nifer y staff
  • Nifer y disgyblion ag anghenion addysgol arbennig

Oriau agor

9.30am-5pm. Mynediad olaf: 4pm.

Teithiau danddaear: 10am-3.30pm. Bydd taith olaf y diwrnod yn dechrau am 3pm.

Nid yw’r daith dan ddaear ar gael ar rai dyddiadau ym mis Ionawr, oherwydd gwaith cynnal a chadw. Ffoniwch ni neu ewch i’r wefan am fwy o fanylion.

Iechyd a diogelwch

Er nad yw Pwll Mawr yn cynhyrchu glo mwyach, mae deddfwriaeth ddiogelwch Deddf y Pyllau Glo yn berthnasol yno o hyd. Mae yn erbyn y gyfraith i fynd â deunydd sy'n mygu neu eitemau cynheuol danddaear. Mae hyn yn cynnwys sigarennau, e-sigarennau, matsis a thanwyr, ffonau symudol, oriorau a chylchoedd allweddi, cyfrifiannellau, dyfeisiau electronig ac unrhyw ddeunydd ffotograffig. . Caiff yr offer 'contraband' hyn eu casglu gan ein tywyswyr cyn dechrau'r daith danddaear a'u cloi mewn cwpwrdd tan ddiwedd y daith.

Mae gwybodaeth iechyd a diogelwch i’ch helpu i gwblhau’ch asesiad risg ar gael yma.

Rhaid i rywun oruchwylio grwpiau o blant 16 oed ac iau bob amser.

Cymarebau oedolyn/plentyn:

  • Hyd at 8 oed: 6 disgybl / 1 oedolyn
  • 8–11 oed: 10 disgybl / 1 oedolyn
  • 11–16 oed: 14 disgybl / 1 oedolyn

Mae’r cymarebau hyn yn seiliedig ar yr hyn a awgrymir gan yr Adran Addysg a Sgiliau a’r gofynion angenrheidiol ar gyfer taith dan ddaear. Dylai arweinwyr grwpiau asesu’r risgiau ac ystyried lefel oruchwylio ddiogel ar gyfer eu grwpiau nhw.

Mae lle i grwpiau o 100 ar y mwyaf ar y safle ar unrhyw adeg. Gofynnir i grwpiau mawr fel hyn wahanu’n grwpiau llai ac ymweld â gwahanol rannau o’r safle ar wahanol adegau. Lle i 17 person ar y mwyaf sydd ar y daith dan ddaear. Caiff hyn ei drefnu gan aelod o staff yr Amgueddfa.

Ymweld

Mae lle parcio i fysiau ar gael ar bwys y man gollwng teithwyr ger y brif fynedfa.

Er diogelwch, sylwer na ellir mynd â bagiau mawr a sachau teithio dan ddaear. Mae nifer fach o loceri ar ben y pwll ond dylid gadael bagiau ar y bws lle bynnag posibl.

Cyfleusterau i ymwelwyr ag anghenion arbennig

Mae Big Pit yn ceisio darparu ar gyfer ymwelwyr ag anghenion arbennig. Cysylltwch â ni ymlaen llaw i holi pa drefniadau y gallwn ni eu gwneud ar gyfer ymwelwyr ag anghenion arbennig.

Rhaid i ysgolion ac arweinwyr grwpiau sicrhau eu bod nhw’n gwneud trefniadau addas i oruchwylio a chynorthwyo disgyblion ag anghenion arbennig.

Namau Corfforol

Mae’r rhan fwyaf o’r safle’n agored i bawb, ond am fod rhai llwybrau serth rydym yn argymell bod pobl mewn cadeiriau olwyn a phobl â phroblemau cerdded yn cael cymorth oedolyn arall. Mae’r llawr yn anwastad mewn mannau. Dim ond 4 ymwelydd mewn cadair olwyn gaiff fynd o dan y ddaear ar y tro.

Namau ar y Golwg

Mae’r Orielau Mwyngloddio’n cynnwys cyflwyniad awdio-weledol â gwahanol lefelau o olau a lliw. Mae staff yr amgueddfa’n hapus i adael i ymwelwyr gyffwrdd neu ddal amrywiaeth o arddangosion.

Namau ar y Clyw

Mae cyflwyniadau awdio-weledol ym mhob rhan o’r amgueddfa. Mae dolenni sain ar gael yn y mannau arddangos.

Mae Canllawiau Mynediad ar gael yma, neu ffoniwch 029 2057 3650.

Dillad ac Esgidiau

Does dim angen dillad arbennig ar gyfer y daith danddaear, ond rydyn ni'n argymell i chi wisgo dillad cynnes ac esgidiau addas.

Ar ôl cyrraedd

Gall bysiau adael a chasglu grwpiau y tu allan i'r prif fynedfa. Mae maes parcio i fysiau wrth ymyl y man gadael teithwyr. Ewch i'r dderbynfa wrth gyrraedd a rhowch wybod i staff y dderbynfa faint yn union o bobl sydd yn eich grwp.

Caiff pob aelod o'r grwp docyn i gofio'u taith i lawr i'r pwll glo.

Gall pob Tywysydd gymryd 15 person gyda nhw danddaear. Peidiwch â phoeni am rannu eich grŵp cyn y daith, bydd aelod o staff yr Amgueddfa yn trefnu hyn yn ystod eich ymweliad. Bydd y tywysydd yn casglu bonion y tocynnau cyn mynd â'r grwp i Ben y Pwll i gasglu eu hoffer.

Bwyd a diod

Mae ardal fwyta ar gael, ond y cyntaf i'r felin gaiff falu. Mae lle i hyd at 70 o bobl fwyta eu pecynnau bwyd yno. Mae ardaloedd picnic ar gael y tu allan i adeilad y Baddonau Pen Pwll.

Mae bwydlen arbennig ar gael yn Ffreutur yn y Baddondai Pen Pwll gyda gostyngiad i grwpiau ysgol. Rhaid archebu cyn yr ymweliad. Bydd yr archebion olaf yn cael eu derbyn am 3:30pm.

Tai bach

Mae tai bach ar bob un o'r tair lefel ar y safle. Marciwyd y cyfleusterau hyn ar y map. Dylid nodi nad oes tai bach danddaear, felly rydym ni'n argymell defnyddio'r cyfleusterau yn yr ystafell aros cyn mynd i Ben y Pwll gyda'r tywysydd.

Mae cyfleusterau newid cewynnau ar gael ar ddwy lefel o'r safle. Lleolir y rhain yn y siop goffi ar y lefel ganol a ger y cantîn yn adeilad y baddonau.

Map

Mae map ar gael o ddesg y dderbynfa.

Ffotograffiaeth

Caniateir ffotograffiaeth at ddefnydd personol ar y rhan fwyaf o'r safle ar ben y pwll, ond mae rhai ardaloedd cyfyngedig. Chwiliwch am yr arwyddion sy'n nodi ble mae'r cyfyngiadau. Ni chaniateir ffotograffiaeth danddaear yn ôl y gyfraith.

Siop yr Amgueddfa

Mae'r Siop yn gwerthu amrywiaeth o nwyddau, gan gynnwys teganau bach, llyfrau a chardiau post. Helpwch gyda'r gwaith goruchwylio drwy sicrhau taw niferoedd bychan sy'n ymweld ar y tro.

I arbed amser wrth ymweld, gallwch chi archebu bag rhodd am bris penodedig:

  • £4 – Beiro, pensel a rhwbiwr (neu) breichled Big Pit
  • £5.50 – Llyfr nodiadau, beiro, pensel a rhwbiwr (neu) breichled Big Pit
Bydd yn rhaid i chi dalu am Fagiau Rhodd a archebwyd gyda cherdyn neu arian parod yn ystod yr ymweliad, gan na allwn ni ddarparu anfoneb am y taliad. .

Canllawiau’r Amgueddfa

Mae Pwll Mawr wedi cadw llawer o elfennau safle gwaith diwydiannol ac mae'n dangos adeiladau ac arteffactau hanesyddol pwysig. Rydym ni'n argymell cyfradd o 1 oedolyn i bob 10 plentyn. Rydym ni'n mynnu bod plant o dan 16 oed yn cael eu goruchwylio drwy'r amser, gan gynnwys amser cinio.

Mae diogelwch ein holl ymwelwyr yn arbennig o bwysig yn ystod y daith danddaear. Os bydd plant yn camymddwyn danddaear, caiff y grwp cyfan ei ddanfon allan o'r pwll ac ni fyddant yn parhau â'r daith.

Mae’r Amgueddfa’n cadw’r hawl i ofyn i unrhyw grwpiau neu unigolion sy'n ymddwyn yn fygythiol neu'n afresymol, unrhywle ar y safle, i adael. Bydd unrhyw grŵp sy'n ymddwyn felly ar daith danddaear yn cael eu tywys i'r wyneb a'r daith yn cael ei hatal er diogelwch pob ymwelydd danddaear.

Mae ysmygu wedi ei wahardd unrhywle ar y safle.

Ymweliadau rhagflas

Rydym ni'n annog athrawon neu arweinwyr grwpiau sydd am ymgyfarwyddo â Phwll Mawr i ddod ar ymweliadau paratoi. Ffoniwch ymlaen llaw os ydych chi am siarad â'r Swyddog Addysg ar y diwrnod.

Mae rhagor o fanylion am yr Amgueddfa yn Llawlyfr Ymwelwyr Big Pit. Gellir prynu hwn yn y dderbynfa a'r siop, neu ei archebu ymlaen llaw. Cewch brynu copi yn y dderbynfa neu'r siop anrhegion, neu gallwch archebu copi drwy ffonio: (029) 2057 3650.

Danddaear

Mae'n bosibl y bydd angen defnyddio ffordd gwahanol i arwain ymwelwyr allan o'r pwll mewn argyfwng e.e. os yw'r pwer yn methu. Os bydd hynny'n digwydd, dilynwch gyfarwyddiadau'ch tywysydd.

Cymorth cyntaf ac anghenion meddygol

Os oes angen Cymorth Cyntaf arnoch chi, gofynnwch i aelod o staff yr Amgueddfa a fydd yn cysylltu â rhywun cymwys i roi Cymorth Cyntaf.

Dylai arweinwyr grŵp gysylltu â’r Swyddog Addysg os oes gan aelod o’r grŵp unrhyw anghenion meddygol penodol.

Tân

Os bydd tân, bydd larwm yn canu. Dylai’ch grŵp adael yr adeilad drwy ddilyn yr arwyddion i’r allanfa dân agosaf. Cewch gyfarwyddiadau gan aelod o’r staff.

Plant ar goll

Dywedwch wrth y plant i roi gwybod i aelod o staff yr Amgueddfa os cânt eu gwahanu oddi wrth weddill y grwp er mwyn iddynt ddod o hyd i un o arweinwyr y grwp.

Polisi amddiffyn plant

Mae polisi amddiffyn plant yr Amgueddfa ar gael yma.