Digwyddiad: Brecwast a chinio ysgafn gyda Siân Corn
Wedi'i Orffen
Ymunwch â ni am frecwast neu ginio ysgafn gyda Siân Corn, ymweld â gweithdy’r corachod a chreu tegan neu addurn Nadolig i fynd adref gyda chi. Bydd cyfle i dynnu llun gyda Siân Corn, ac anrheg i bob plentyn.
Crempogau, crympets, teisennau bychan a surop masarn, dysgl ffrwythau gyda choffi ffilter neu de Cymreig ar gyfer oedolion a diod ffrwythau i’r plant.
£10 i blant
£5 i oedolion
Rhaid archebu ymlaen llaw: 029 2057 3650. Cyntaf i’r felin!
Gyda chefnogaeth chwaraewyr y People’s Postcode Lottery
