Digwyddiadau

Cwrs: Cyrsiau Hanner Dydd: Cyflwyniad i Waith Gof

Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru
Wedi'i Orffen
8, 11, 13 a 15 Mawrth 2024, 10 - 12 NEU 1 - 3
Pris £75 | £60 gostyngiad
Addasrwydd 18+

Archebu tocynnau 

Cyfle i roi cynnig ar y grefft hynafol o waith gof yn efail wreiddiol Big Pit, lle bu cenedlaethau o ofaint yn gwasanaethu anghenion Big Pit.


Gan weithio o dan arweiniad Len, Gof yr Amgueddfa, sydd â dros 50 mlynedd o brofiad o weithio fel Gof a gweithio dan ddaear, bydd cyfle i chi dysgu am dechnegau ffugio, ffurfio a thorri gan ddefnyddio dur poeth i greu eich procer eich hun i fynd adref gyda chi.*

Mae’r cwrs llawn hwyl hwn yn addas i ddechreuwyr. Bydd dau le i’w archebu ym mhob sesiwn. Bydd pob sesiwn yn parhau hyd at 2 awr. * Mae posib archebu a chyfuno dwy sesiwn i greu cwrs diwrnod, lle bydd posib creu crafwr i gyd-fynd a’r procer.

Archebwch sesiwn bore a sesiwn prynhawn am yr un dyddiad am yr opsiwn hwn.


Gwybodaeth Diogelwch:

I gymryd rhan yn y cwrs, mae gofyn gwisgo’n addas (wele isod) a dilyn cyfarwyddiadau’r gof ynglyn a gweithio’n ddiogel.

Dylai pob dilledyn fod o ddeunydd naturiol, 100% cotwm os yn bosib

  • Dylid cael llewys hir i orchuddio’r breichiau
  • Dylai’r trowsus fod ddigon llac i orchuddio pen ucha’r sgidiau. (Dim ond trowsus hyd llawn y dylid ei wisgo).
  • Mae esgidiau diogelwch yn hanfodol - rhaid i chi eu darparu.
  • Darperir sbectol ddiogelwch – mae’n rhaid gwisgo hon gydol eich amser yn yr Efail. Darperir hefyd ffedog ledr.
  • Os ns fydd cyfarwyddiadau’r gof yn cael eu dilyn, gellir dod a’r sesiwn i ben.


Gwybodaeth Bwysig Ychwanegol: 
 

Iaith:

Cynhelir y cwrs drwy iaith cyntaf yr hwylusydd - sef Saesneg

Hygyrchedd:

Mae rhai o ofodau dysgu’r Amgueddfa 5 munud ar droed o’r prif adeilad a’r maes parcio – cysylltwch â digwyddiadau@amgueddfacymru.ac.uk cyn archebu i drafod anghenion hygyrchedd.

 

Gall darllen y telerau ac amodau ar gyfer ein cyrsiau yma.
 
Digwyddiadau