Digwyddiadau

Arddangosfa: Windrush Cymru – Ein Lleisiau, Ein Straeon, Ein Hanes

Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru
Wedi'i Orffen
29 Gorffennaf–31 Awst 2022
Pris Am Ddim
Addasrwydd Pawb
Casgliad o luniau o'r genehdlaeth Windrush

Ym 1948 cyrhaeddodd yr Empire Windrush ddociau Tilbury yn Essex, yn cario dros 1,000 o deithwyr o Ynysoedd y Caribî. Roedd y bobl hyn wedi gadael teulu a ffrindiau er mwyn ateb galwad Prydain am weithwyr wedi’r rhyfel. Dros y 40 mlynedd nesaf, dilynodd miloedd o bobl eraill ôl eu traed, ac fe wnaeth llawer ohonynt ymgartrefu yng Nghymru.

Roedd hanes cenhedlaeth Windrush yng Nghymru yn destun project hanes llafar diweddar, a gynhaliwyd gan Race Council Cymru a’i ariannu gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri. Ar gyfer y project bu aelodau o Genhedlaeth Windrush Cymru o bob cwr o’r wlad yn rhannu eu straeon am fudo a’u hatgofion o greu bywyd newydd yng Nghymru.

Mae’r arddangosfa bwerus yn cynnwys straeon dros 40 o Genhedlaeth Windrush Cymru, yn eu geiriau eu hunain. Cewch ddysgu am hanes eu teithiau i Gymru, a’r heriau o fyw mewn gwlad mor bell – fel dod o hyd i waith ac agweddau pobl tuag atynt.

Mae’r hanesion yn dangos sut mae Cenhedlaeth Windrush Cymru a’u disgynyddion wedi gwneud eu marc ym mhob agwedd o fywyd Cymru: trwy eu swyddi a’u gyrfaoedd, trwy fagu plant, a thrwy gyfrannu at ein cymunedau a’n diwylliant.

Caiff Windrush Cymru – Ein Lleisiau, Ein Straeon, Ein Hanes ei gyflwyno gan Race Council Cymru mewn partneriaeth ag Amgueddfa Cymru, Canolfan y Mileniwm, Casgliad y Werin Cymru, Hynafiaid Windrush Cymru, a Hanes Pobl Dduon Cymru 365. Gyda chefnogaeth gan Gyngor Celfyddydau Cymru, Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, a Choleg Gŵyr Abertawe.

Digwyddiadau