Digwyddiadau

Digwyddiad: Haf o Hwyl: Pwerdy Merched y Pwll

Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru
Wedi'i Orffen
27 Awst 2022, 11yb - 3yp
Pris Am Ddim
Addasrwydd Teuluoedd
Hen lun o ferch ifanc yn sefyll gyda'i dwylo ar ei hochr yn gwisgo ffedog budr a chrys tywyll, mae ei gwallt ei ei dynnu yn ol

Ymunwch â ni yn Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru ar gyfer ein gweithdy Pwerdy'r Merched Pwll, i ddathlu ffeministiaeth yn y pyllau glo! 11am-3pm ar ddydd Sadwrn 27 Awst, a gall unrhyw un alw draw ar y diwrnod.

Mae croeso i bobl ifanc 10-15 alw draw i ddysgu a rhannu hanes merched y pwll. Byddwn ni’n trafod hanes cudd glowyr benywaidd yn y pyllau glo. Beth oedd eu gwaith? Sut fydden nhw’n gwisgo? Bydd y sesiwn greadigol fyw yn Big Pit yn cynnwys taith o amgylch arddangosfa Merched Tomen, a chyfle i archwilio hanes merched y pwll trwy greu gwisgoedd addurnol eu hunain. Darperir yr holl ddeunyddiau a chyfarwyddiadau.

Dyfeisiwyd gweithdy Pwerdy'r Merched Pwll gan yr artist Abigail Fraser ar gyfer rhaglen allestyn 9to90 Artistiaid GS, Abertawe, mewn cydweithrediad ag Amgueddfa Cymru a Haf o Hwyl Llywodraeth Cymru.

Digwyddiadau