Digwyddiad: Amser stori gyda SiônCorn

Bydd Siôn Corn a’i Gorachod yn brysur yn Big Pit eleni.
Bydd croeso cynnes i'ch plant ddod i mewn i’n bwthyn clyd ar gyfer stori a adroddir gan Siôn Corn. Bydd pob plentyn yn derbyn anrheg a bydd cyfle i chi dynnu lluniau.
Gwybodaeth Bwysig:
Rhaid archebu pob tocyn ymlaen llaw. Mae llefydd yn gyfyngedig a disgwyliwn i docynnau werthu allan yn gyflym.
Mae’r digwyddiad a’i weithgareddau wedi eu cynllunio ar gyfer plant 3+ oed. Rhaid i blant fod yng nghwmni oedolyn, bob amser.
Mae angen tocyn ar gyfer pob plentyn 3+ oed sy’n cymryd rhan. Oherwydd prinder lle, dim ond un berson na fydd yn cymryd rhan gaiff fod efo pob plentyn 3+ oed sy’n cymryd rhan. Mae pobl nad ydynt yn cymryd rhan yn cynnwys plant dan 3 oed, babanod mewn breichiau, gofalwyr, oedolion a phobl hŷn.
Nid oes angen tocyn ar bobl nad ydynt yn cymryd rhan ond ni fyddant yn derbyn anrheg gan Siôn Corn.
Rhaid gadael pramiau y tu allan.
Dylai deiliaid tocynnau gyrraedd yn brydlon a dim mwy na 15 munud cyn amser cychwyn eu sesiwn. Caniatewch hyd at 15 munud i gerdded o faes parcio/prif adeilad yr Amgueddfa.
Dylid gwisgo dillad addas i’r tywydd.
Nid yw pris eich tocyn yn cynnwys parcio. Codir tâl o £5 y diwrnod am barcio.
Ni ellir ad-dalu tocynnau ac ni ellir eu cyfnewid am ddyddiad neu ddigwyddiad arall. Gwnewch yn siwr eich bod yn gwbl hapus â’ch dewisiadau cyn archebu.