Taith dan ddaear

Taith dan Ddaear

Byddwch yn barod i gael eich gollwng 90 metr (300 troedfedd) i lawr siafft pwll Big Pit am ein taith dan ddaear enwog. Mae'n daith drawiadol o gwmpas rhai o'r lefelydd gwreiddiol.

Bydd yr ymwelydd yn gwisgo'r un offer yn union â’r hen lowyr - helmed, lamp capan, gwregys, batri a ‘hunan-achubydd’. Cymrwch sedd yn y stafell aros glowyr cyn cychwyn ar eich taith.

Cafodd y swyddfeydd ar bwys eu defnyddio gan reolwr y pwll a'i staff uwch. Defnyddir y rhan fwyaf am eu pwrpas gwreiddiol, gyda'r swyddfa amserwr wedi'i hadnewyddu a'r porthordy'r swyddogion wedi'i throwyd yn stafell cymorth cyntaf.

Taith dan Ddaear

Roedd yr ardal o gwmpas top y siafft, sef y banc fel y'i gelwir yn aml, bob amser yn fan swnllyd a phrysur gyda dynion a deunyddiau yn cael eu cludo dan ddaear a dramiau o lo yn dod i'r wyneb. Felly mae'n parhau heddiw gydag ymwelwyr yn cychwyn ar eu teithiau dan ddaear a dychwelyd ohonynt.

Mae cylch y dramiau gerllaw yn ffordd i'r dramiau pan oeddynt yn llawn. Ar ôl iddynt godi i'r wyneb yn y caets, rhedent ar hyd y cledrau a chawsent eu troi â'u pennau i lawr i wacáu'r glo ar y beltiau sgrinio lle câi ei raddio i wahanol feintiau yn ôl anghenion y farchnad.

Mae'r lamprwm presennol yn fan gweithio lle mae lampau capan yr ymwelwyr a’r staff yn cael eu trwsio a’u gwefru. Mae dyn lampau Big Pit a'i staff yn gofalu am un o eiconau’r diwydiant glo – sef y lamp dân ddiogel.

Taith dan Ddaear

Er mai swyddogion yn unig sy'n ei chario heddiw fel ffordd o synhwyro fod nwy yn y pwll, dim ond y rhain oedd gan yr hen löwr i oleuo'i ffordd.

Unwaith ewch chi dan ddaear, cewch eich tywys (mae'n 50 munud o gerdded) o gwmpas y talcenni glo, tai’r peiriannau a'r stablau yng nghwmni cyn-löwr.

Bydd y tywyswyr yn esbonio'r gwahanol ffyrdd y câi'r glo ei gloddio a'i gludo, ac yn sôn am rai o'u profiadau eu hunain.