Lleoliad Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru

Lleoliad


Blaenafon
Torfaen
NP4 9XP

Map a Sut i Gyrraedd Yma

Mewn car

Os oes gennych chi offer llywio â lloeren, teipiwch Blaenafon (Blaenavon) neu NP4 9RL a dilynwch yr arwyddion twristiaeth brown ar ôl i chi gyrraedd y dref.

M4 — dilynwch yr arwyddion Twristiaeth brown o C25a (tua'r gorllewin) neu C26 (tua'r dwyrain). Mae arwyddion oddi ar yr A465 yn y Fenni a Brynmawr hefyd.

Parcio

Os ydych yn cyrraedd mewn car bydd angen i chi dalu wrth gyrraedd. £5 y diwrnod. AM DDIM ar gyfer ddeiliaid bathodynnau anabl a beiciau modur. Tâl am barcio yn unig yw hwn – mae mynediad am ddim i’r Amgueddfa fel arfer.

Ymweld â ni ar drafnidiaeth gyhoeddus, beic neu ar droed?

Gallwch drefnu'ch taith drwy ddefnyddio wefan Traveline Cymru neu drwy ffonio eu llinell gymorth ar 0800 464 0000.

Ar fws

Gallwch ddal bws rhif 30 o Orsaf Fysiau Cwmbrân i Lion Street, Blaenafon bob dydd Llun-Sadwrn gan gynnwys dydd Gwener y Groglith, ond ni fydd ar gael ar ddyddiau gŵyl y banc eraill.

Mae'r bysiau o Gwmbrân yn dechrau am 7.40am ac yna'n gadael 40 munud wedi'r awr, bob awr.

Gallwch ddal bws rhif 31 o Lion Street i Big Pit bob dydd Llun-Sadwrn, gan gynnwys dydd Gwener y Groglith, ond ni fydd ar gael ar ddyddiau gŵyl y banc eraill.

Mae’r bysiau o Lion Street yn dechrau am 8.40am ac yna'n gadael 40 munud wedi'r awr, bob 2 awr.

Mae'r bysiau o Big Pit i Lion Street yn gadael 15 munud wedi'r awr, bob awr, ac mae'r bysiau o Lion Street i Gwmbrân yn gadael 40 munud wedi'r awr, bob 2 awr, tan 4.40pm.

Ar droed/Ar feic

Mae map o lwybrau cerdded/beic ar gael o Sustrans.