Teuluoedd

Siop Big Pit

Mae Big Pit yn cynnig

teithiau tanddaearol

i deuluoedd drwy gydol y flwyddyn.

Rhaid i blant fod yn fetr o daldra i fynd dan ddaear. Mae'r daith danddaearol yn para tua 50 munud gyda ymwelwyr yn cerdded tua 700 llath gan wisgo helmet a lamp sy'n pwyso 5 cilogram.

Mae'r

Orielau Glofaol

yn dangos sut y cloddir am lo heddiw, a bydd y plant yn siŵr o fwynhau y synau a'r fflachiadau cymaint â neb o'r teulu.

Mae gweithgareddau eraill yn cynnwys teithiau darganfod a phecynnau gweithgaredd (arbennig o addas i blant ifanc), sydd ar gael am ddim drwy wneud cais yn y Dderbynfa.

Mae rhaglen fwy cynhwysfawr o weithgareddau i'r teulu yn ystod gwyliau ysgol yn cynnwys gweithgareddau crefft, adrodd straeon a gwisgo fel glowyr bach.

Cyfleusterau

Mae cyfleusterau newid babi ar gael ym mhob toiled.

Siop yr Amgueddfa

Darperir detholiad pwrpasol o deganau plant ac ystod eang o lyfrau, printiau a chardiau post.

Rhaid i blant dan 16 fod yng nghwmni oedolyn bob amser