Polisi Cyfryngau Cymdeithasol i Amgueddfaoedd
16 Mehefin 2015
,Mae'n ddiwrnod cyffrous iawn yn yr adran ddigidol. Dwi'n falch o allu rhannu hwn efo chi, Polisi Cyfryngau Cymdeithasol diwygiedig ar gyfer gweplyfrwyr, trydarwyr, tumblrwyr ayb yr amgueddfa. Dwi wedi ceisio ei gadw'n bolisi darllenadwy a defnyddiol, sydd yn meddu ar rywfaint o synnwyr cyffredin - felly cymwch bip arno a rhowch wybod os oes rhywbeth ciami neu goll amdano.
Lawrlwytho Polisi Cyfryngau Cymdeithasol Amgueddfa Cymru
Lluniwyd y polisi blaenorol yn 2009 - ers hynny, mae'n disgwyliadau a'n dyfeisiau wedi llamu ymlaen (i fyny?). Dwi'n gobeithio y bydd y ddogfen hon yn aros yn gyfredol trwy adborth ac ail-ymweld, wrth i ni fracso yn y llif o blatfformau newydd, telerau ac amodau wedi'u golygu dros nos, yn ogystal â megamethiannau a chwiwiau-ffasiwn ar-lein.
Mae'n chwaer i'r Pecyn Cymorth Cyfryngau Cymdeithasol - dwi'n dal i lunio'r ddogfen honno, am fy mod eisio iddi edrych rywfaint yn fwy diddorol (a deniadol) - mi fyddaf yn siwr o bostio linc pan fydd y Pecyn yn barod. Fy ngobaith yw y bydd yn ddogfen gyfeiriol a defnyddiol - rhywbeth sy'n mynegi cymaint yw posibiliadau cyfryngau cymdeithasol, lle mae'r polisi yn diffinio ffiniau ein gwaith ac rywfaint yn fwy athraweslyd. Diolch i bawb sydd wedi cyfrannu ato, ac yn arbennig i'n deiliaid cyfri gweithredol am rannu adborth.
Rhowch wybod be 'dych chi'n feddwl yn y sylwadau!
sylw - (2)
Hi Bernice! Chuffed to know it's looking useful.
Wikipedia actually has a good summary, and describes it thus: "The Streisand effect is the phenomenon whereby an attempt to hide, remove, or censor a piece of information has the unintended consequence of publicizing the information more widely, usually facilitated by the Internet."
Less glamorous than it first sounds, I know. Details of all the risk flags will be contained in the ToolKit - I'm working on it today in fact!
True and fun Streisand fact: she has a 'mall' in the basement of her Malibu home where she goes pretend shopping.