Hafan y Blog

Apêl Ryseitiau – Gŵyl Fwyd Sain Ffagan

Mared McAleavey, 5 Awst 2015

Ydych chi, fel finna, yn ffendio eich hunain yn troi at yr un hen ryseitiau? Mae amryw ohonynt yn rai a drosglwyddwyd drwy fy nheulu, ac a ddysgais gan fy Nain a’m Mam. Mae ‘na rhywbeth cysurus iawn amdanynt, sy’n fy atgoffa o fy mhlentyndod.

Mae gennym archif helaeth o ryseitiau yn Sain Ffagan, y mwyafrif helaeth ohonynt yn gyfarwyddiadau a drosglwyddwyd ar lafar o genhedlaeth i genhedlaeth. Casglwyd y wybodaeth drwy gyfrwng holiaduron, llythyrau a ryseitiau ysgrifenedig. Ond crynswth y casgliad yw gwaith maes Minwel Tibbott. Pan gychwynnodd yn yr Amgueddfa ym 1969, maes hollol newydd oedd astudio bwydydd traddodiadol. Sylweddolodd yn fuan nad trwy lyfrau oedd cael y wybodaeth. Teithiodd ar hyd a lled Cymru yn holi, recordio a ffilmio’r to hynaf o wragedd, y mwyafrif ohonynt yn eu hwythdegau. Roedd eu hatgofion, o’r prydau a ddysgont gan eu mamau yn mynd yn ôl i ddiwedd y 1800au.

Fel rhan o Ŵyl Fwyd Sain Ffagan eleni, a gynhelir ar y 5ed a’r 6ed o Fedi, rydym yn gofyn am eich help i ychwanegu at y casgliad hwn. Wrth i chi swatio o flaen y bocs heno ‘ma i wylio the Great British Bake Off, ystyriwch eich arlwy o ryseitiau. Pa rysáit teuluol fyddech chi’n ei rannu gyda ni? Sut ydach chi’n addasu rysieitiau traddodiadol? Oes gennych eich hoff lyfr ryseitiau rhwygedig, wedi ei orchuddio â nodiadau ychwanegol a staeniau bwyd drosto? Pa atgofion mae prydau gwahanol yn eu hennyn? Pa ryseitiau sy’n cael eu cadw ar gyfer achlysuron arbennig?

Gallwch drydar delweddau ac eich atgofion i @archifSFarchive. Fel arall dowch â nhw gyda i chi i’r Ŵyl Fwyd, ac mi nawn ni eu sganio yn Sefydliad y Gweithwyr. Os nad ydynt wedi eu nodi ar bapur, fel sy’n wir gyda chymaint o’n ffefrynnau teuluol, gallwch eu rhannu gyda ni ar y dydd.

Cadwch lygaid ar y prosiect hwn drwy ddilyn cyfrifon trydar @archifSFarchive ac @SF_Ystafelloedd a’r hashnodau #GwylFwyd #Ryseitiau.

Mared McAleavey

Prif Guradur: Ystafelloedd Hanesyddol
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.