Hafan y Blog

Dyddiadur Kate: Llythyru yn ystod y Rhyfel Mawr

Elen Phillips, 8 Hydref 2015

Yn ddiweddar, des i ar draws ffeithiau anhygoel ar wefan y BBC am y gwasanaeth post yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Ar anterth y brwydro, roedd hyd at 12 miliwn o lythyrau’r wythnos yn cael eu dosbarthu o Brydain i dir mawr Ewrop. Ar ben hyn, ar ddiwrnod arferol, roedd 19,000 o sachau post yn croesi’r Sianel a 375,000 o lythyrau yn cael eu sensori gan yr awdurdodau.

Yn naturiol, roedd derbyn cyfarchion o gartref yn hwb fawr i ysbryd y milwyr ar faes y gad. Yn yr un modd, roedd derbyn pwt o lythyr o’r ffrynt yn lleddfu gofid eu teuluoedd nôl yng Nghymru, am ryw hyd beth bynnag. Roedd Walter Vicarage o Abertawe yn ymwybodol iawn o hyn pan ysgrifennodd nodyn at ei fam o Ffrainc ym Medi 1915:

No doubt you will get my next letter from the trenches as we are expected to go in soon… I had a letter from Uncle Tom; he also told me Uncle David was there. I must write to him when I have time. I have only written to May once. I know she is in a stew about it, but I must try now and let you both have some news regular[ly] or at least as often as I can.

Bu Kate Rowlands yn llythyru â sawl cymydog oddi cartref yn 1915. Yn ei dyddiadur, mae’n nodi ei bod wedi ysgrifennu llythyron at Robert Daniel Jones (os gofiwch chi, fe ymunodd â’r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig ym Mawrth 1915), a’i ffrind Anwen Roberts a oedd yn nyrsio gyda’r Groes Goch lawr yng Nghasnewydd. Fwy nag unwaith, mae’n sôn am bostio llythyrau yn y Sarnau – 'mynd i’r post min nos' yw’r ymadrodd sy’n ymddangos droeon yn y dyddiadur.

I'w chyfeillion yng Nghwm Main, roedd diffyg cyfleusterau postio yn bwnc llosg. Roedd y gymuned hon yn gartref i John Jones yr Hendre, ei wraig a'u plant - yn eu plith, Thomas (Tomi'r Hendre) a Winnie (Win). Does prin wythnos pan nad yw Kate yn crybwyll y teulu hwn yn ei dyddiadur.

Yma yn Sain Ffagan, mae gennym bentwr o archifau a roddwyd i'r Amgueddfa gan Winnie Jones yn y 1960au. Ymysg y papurau mae drafft o lythyr a ysgrifennwyd gan ei thad at y postfeistr yn cwyno am ddiffyg blwch post yn ardal Cwm Main a'r Maerdy. Mae'r casgliad hefyd yn cynnwys traethawd yn dwyn y teitl 'Cwm Main yn yr hanner can mlynedd diwethaf' a ysgrifennwyd gan Winnie yn 1940. Ynddo, mae'n cofio ymgyrch leol i gael blwch post newydd i'r gymdogaeth:

Yn 1908 casglwyd enwai [sic] yn yr ardal a gwnaed apel daer ond gwrthodwyd eto, ond nid bobl i ildio oedd yn byw yma yr adeg hono ac anfonent i Gorwen o hyd ac yn 1921 cafwyd y letter box hir disgwyliedig i gael ei gasglu yn y bore.

I ddathlu'r achlysur, ysgrifennodd Morris Jones, Llwynonn, gerdd o fawl i'r blwch post newydd:

Bu llawer o sibrwd a siarad

A dadlau yng Nghorwen yn dost

Cael cyfle mwy hwylus i'r ardal

i roddi llythyrau y Post

Ond heddyw mae popeth yn hwylus

Rwy'n canmol John Jones am ei waith

Yn lle rhedeg a chwysu trwy'r Sarnau

I'r Cefn i bostio cyn saith.

Mae archifau Winnie Jones hefyd yn cynnwys cerdyn post a dderbyniodd ei rhieni gan ei brawd, Tomi'r Hendre, yn 1916. Ar y pryd, roedd yn hyfforddi gyda'r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig ym Mharc Cinmel. Cewch glywed mwy am hanes Tomi ar y blog cyn hir. Yn y cyfamser, cofiwch bod modd i chi weld dros wythdeg o gardiau post o gyfnod y Rhyfel Mawr ar ein gwefan, ynghyd â sawl llythyr a thelegram.

Elen Phillips

Prif Guradur Hanes Cyfoes a Chymunedol
Gweld Proffil
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.