Hafan y Blog

Ydych chi’n gorwedd yn gyfforddus?

Bernice Parker, 13 Mawrth 2016

Os ydych chi wedi bod yn gwylio sgrinwyna, siawns fyddech chi wedi gweld rhai o'r defaid yn cael help llaw gen y tîm. Felly i'r rhai ohonoch sydd yn awyddus i wybod beth yn union sy'n mynd ymlaen....

Wrth i’r ddafad esgor, mae cyfangiad y cyhyrau yn gwthio’r oen at y byd mawr. Yr enw ar safle’r oen yw ‘gorweddiad’. Os yw gorweddiad yr oen yn drafferthus, bydd yn rhaid i’r bugail helpu’r ddafad i roi genedigaeth.

 

  1. Delfrydol: Pen a coesau blaen yn gyntaf. Dyma’r safle hawsaf – dim angen help fel arfer.
  2. Un goes allan fel ‘Superman’: Weithiau angen help i wthio’r oen yn ôl a sythu’r goes.
  3. Dwy goes yn ôl: Angen help i wthio’r pen yn ôl a thynnu’r coesau allan.
  4. Pen yn ôl: Angen help i wthio’r oen yn ôl a thynnu’r pen ymlaen.
  5. Am yn ôl: Dim angen help, ond gall y llinyn bogail dorri cyn i’r pen ddod allan, gan achosi i’r oen foddi cyn cael ei eni.
  6. O chwith (pen ôl gyntaf): Bydd angen help i sortio hyn bob tro.
  7. Cymhlethdodau: Mae geni efeilliaid, tripledi neu fwy hyd yn oed yn hawdd fesul un! Ond weithiau mae pethau’n mynd yn lletchwith, ac mae angen help.

Diolch i Wynfford yr Oen Hyfforddi a Fflat Eric am eu gwaith modelu

Bernice Parker

Swyddog Digwyddiadau Cyhoeddus

sylw (1)

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.
danielle
15 Mawrth 2016, 10:46
Love this explanation!