Hafan y Blog

Ffotograffydd Magnum, David Hurn, yn rhoi ei gasgliadau ffotograffiaeth i Amgueddfa Cymru

Bronwen Colquhoun, 17 Mai 2017

Dyn wedi ymddeol, Dawns Perchnogion Car MG, 1967. D.U. ALBAN, Caeredin. © David Hurn/MAGNUM PHOTOS

Mae Amgueddfa Cymru wedi derbyn rhodd anhygoel gan y ffotograffydd Magnum, David Hurn. Mae Hurn yn un o ffotograffwyr dogfennol mwyaf dylanwadol Prydain. Ac yntau bellach yn byw ac yn gweithio yma yng Nghymru, mae wedi dychwelyd at ei wreiddiau Cymreig – ac yma y bydd ei gasgliad o ffotograffau’n aros diolch i’w rodd hael.

Mae’r casgliad yn rhannu’n ddwy ran, sef tua 1,500 o’i ffotograffau ef ei hun sy’n cwmpasu ei yrfa o dros drigain mlynedd fel ffotograffydd dogfennol; a thua 700 o ffotograffau gan ffotograffwyr eraill o’i gasgliad preifat. Wrth sôn am ei rodd, dywedodd Hurn:

“Fy atgofion gweledol/diwylliannol cynharaf yw ymweld â’r Amgueddfa pan oeddwn i’n bedair neu’n bump oed. Dwi’n cofio’r cerflun drwg – y Gusan gan Rodin – a chasys yn llawn stwff oedd pobl wedi ei roi. Wel, bellach mae gen i gyfle i dalu rhywbeth yn ôl – bydd rhywbeth gen i yno am byth. Mae’n fraint o’r mwyaf.”

Detholiad Diffiniol o Waith Oes

Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, mae David wedi bod yn dewis ffotograffau o’i archif ef ei hun sy’n ddetholiad o waith ei oes. Mae’r casgliad o tua 1,500 o brintiau newydd yn cynnwys gwaith a wnaed yng Nghymru, Lloegr, yr Alban, Iwerddon, Arizona, Califfornia ac Efrog Newydd.

Mae’n cynnwys rhai o’i ffotograffau enwocaf, fel Dawns y Frenhines Charlotte, Barbarella a Grosvenor Square.

Fodd bynnag, ei ffotograffau craff a gofalus o Gymru yw prif ffocws y casgliad. Yn dilyn rhodd hael David, Amgueddfa Cymru yw ceidwad y casgliad mwyaf o’i luniau yn y byd.

D.U. CYMRU. Dinbych y Pysgod. Y promenâd yn nhref glan y môr Dinbych y Pysgod, De Cymru. 1974 © David Hurn/MAGNUM PHOTOS

Casgliad Cyfnewid

Drwy gydol ei yrfa hir, mae Hurn wedi bod yn cyfnewid llun am lun â’i gyd-ffotograffwyr, llawer ohonynt yn gydweithwyr iddo yng nghwmni Magnum.

Mae’r casgliad pwysig ac amrywiol hwn o tua 700 ffotograff, sydd hefyd yn dod i law’r Amgueddfa, yn cynnwys gweithiau gan ffotograffwyr blaenllaw’r 20fed a’r 21ain ganrif.

Yn eu mysg mae Henri Cartier-Bresson, Eve Arnold, Sergio Larrain, Bill Brandt, Martine Franck, Bruce Davidson a Martin Parr, Bieke Depoorter, Clementine Schneidermann a Diana Markosian. Henri Cartier-Bresson, Eve Arnold, Sergio Larrain, Bill Brandt, Martine Franck, Bruce Davidson a Martin Parr, a ffotograffwyr sy’n dod yn amlycach megis Bieke Depoorter, Clementine Schneidermann a Diana Markosian.

Bydd detholiad o ffotograffau o gasgliad preifat David yn cael eu harddangos am y tro cyntaf yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd o 30 Medi 2017 ymlaen. Bydd Llun am Lun: Ffotograffau o Gasgliad David Hurn yn lansio oriel ffotograffiaeth newydd yr Amgueddfa.

Casgliadau Ffotograffig yn Amgueddfa Cymru

Mae casgliadau ffotograffau Amgueddfa Cymru’n unigryw am eu bod yn cwmpasu cynifer o feysydd a phynciau, gan gynnwys celf, hanes cymdeithasol a diwydiannol a’r gwyddorau naturiol.

Mae hefyd yn cynnwys ffotograffau pwysig iawn, fel rhai o’r ffotograffau cynharaf i gael eu tynnu yng Nghymru gan y ffotograffydd arloesol John Dillwyn Llewelyn a’i deulu. Bydd rhodd David yn gweddnewid casgliadau ffotograffiaeth yr Amgueddfa ac yn creu cyfleoedd cyffrous i ehangu’r casgliadau mewn ffyrdd newydd.

UDA. Arizona. Sun City. Grwp ffitrwydd y tu allan ben bore yng nghymuned ymddeol Sun City. Ras can metr 50 eiliad i bobl rhwng 60 a 94 mlwydd oed yn y Senior Olympics. Roedd teimlad o hwyl a chymdeithas i'w deimlo'n gryf yno. 1980. © David Hurn/MAGNUM PHOTOS

Bydd yr arddangosfa yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn dilyn cyflwyniad o waith David Hurn yn Photo London, y digwyddiad ffotograffiaeth rhyngwladol a gynhelir bob blwyddyn yn Somerset House, Llundain. Wedi’i churadu gan Martin Parr a David Hurn, mae arddangosfa Photo London, David Hurn’s Swaps, yn dathlu pen-blwydd Magnum Photos yn 70 oed.

Bronwen Colquhoun

Uwch Guradur Ffotograffiaeth
Gweld Proffil

sylw (1)

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.
abele
25 Mai 2017, 03:44
National Museum Wales’ existing photography collections are uniquely inter-disciplinary and span subjects including Art, Social and Industrial History and the Natural Sciences!