Hafan y Blog

Oriel 1

Anna Gruffudd, 2 Awst 2007

Iawn te! Bywyd yn Oriel 1!

Dyma fi yn fy swydd newydd fel dehonglydd Oriel 1, oriel newydd Sain Ffagan yn sgwennu blog am y tro cynta! Fe fydd, fel yr Oriel yn un arbrofol felly! (Ac fel Owain...nes i sgwennu hwn unwaith a cholli'r cwbl...ti'n meddwl sa'n well i ni gael gwersi?!!) Yn anffodus, ar hyn o bryd rwy'n eistedd wrth ddesg yn syllu ar olygfa ddigon llwyd drwy'r ffenest.

Mae ambell sied wedi eu ffensio ag arwydd 'keep out' a 'Site Canteen' i'w gweld ac adeilad mawr siedaidd yn gefndir. O wel, er mwyn cyfleu ychydig o naws y lle bydd rhaid i fi ddychmygu felly fy mod i'n eistedd yng nghanol yr Oriel. O fy mlaen i, mae superted a'i gefn tuag ata i a'i ben e'n pwyso ar hen arwydd y pentref a fu unwaith, 'CAPEL CELYN'.

Uwch ei ben, mae Sgrabble yn Gymraeg a rhes o oleuade bach gwyn yn goleuo'r casyn gwydr y mae'n eistedd ynddo.

Yn nes ata i mae dros gant o recordie saith modfedd o'r 60au a'r 70au yn garped lliwgar lliwgar ar y wal, ac yn treiddio drwy'r awyr mae cerddoriaeth hudolus hamddenol.

Ar y wal y tu ol i mi mae lluniau gan blant yn dawnsio ar y wal ar ffilm. O gyfeiriad arall mae swn gwahanol, clychau a baban yn crio, ac yn y pellder swn torf yn dathlu ym mharc yr arfau. Wrth droi o gwmpas rwy'n gweld drychau mawr ar y wal ac yn hongian o'u hamgylch mae dillad sy'n eich gwahodd i'w teimlo a'u gwisgo.

Ddoe, roedd criw o blant yn dawnsio o amgylch y 'juke box' ac ymwelwyr yn rhyfeddu ar wydr lliw a wnaed gan SMYLe, grwp o fwslemiaid ifanc o Abertawe. Roedd plant bach yn gwneud llwyau caru papur gydag un o'r artisiaid fydd yn gweithio yn yr Oriel bob dydd ym mis Awst gyda'r Cert Celf. Roedd merched yn eu harddegau yn gigls i gyd yn cael tro'n cario'r ddol mewn siol yn y dull Cymreig a thatcu yn rhyfeddu ar ei wyrion bach yn gwrando'n astud ar glustffonau arbennig ar straeon ac atgofion o gasgliadau'r archif. Mae cymaint wedi digwydd yn yr Oriel, dawnsio o dros y byd, artistiaid yn perfformio a darlithiau a sgyrsiau o bob math.

Ond well i fi fynd nawr i wneud ychydig o waith paratoi ar gyfer y gweithdau a'r gweithgareddau fydd yn yr Oriel. Mwy o hanesion am gymeriadau a bywyd Oriel 1 i ddod!

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.