Hafan y Blog

Gwylio ffilm animeiddio mewn t? crwn

Ian Daniel, 21 Gorffennaf 2009

Heidiodd ymwelwyr i’r Pentref Celtaidd dros y diwrnodau diwethaf i ymuno â ni wrth ddathlu G?yl Archeoleg Prydain. Yr uchafbwynt i mi heb os oedd dangos yr animeiddiad, Dadeni, gan Sean Harris, ar lawr y t? crwn. Am awyrgylch iasoer wrth i bawb rythu trwy’r tywyllwch at y delweddau symudol ar lawr. Gweld y pair, y twrch trwyth a’r milwyr yn dawnsio o gwmpas y llawr pridd. Roedd yr awyrgylch yn hudol ac yn gwneud i mi feddwl am ein hen gyndeidiau yn ymgasglu gyda’i gilydd o gwmpas y tân i hel straeon.

 

Trwy gydol y diwrnodau diwethaf bu Tim Young a’i griw yma hefyd yn ceisio ail-greu’r grefft goll o wneud clychau llaw y Cristnogion cynnar. Arbrawf difyr a’r tan naill ai’n rhy gynnes neu ddim yn ddigon cynnes. Mae tipyn gennym i’w ddysgu o hyd am grefft y gorffennol.

 

Mae’r gweithgareddau’n parhau tan yr 2ail o Awst. Dewch draw y penwythnos hwn, y 25ain a 26ain o Orffennaf, i weld y gleiniau gwydr hardd neu i ymuno yn fy ngweithdai peintio. Dewch a bach o liw i’r Oes Haearn!

Ian Daniel

Swyddog Addysg, Dehongli a Cyfranogiad
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.