Hafan y Blog

Yr ?yl yn parhau

Ian Daniel, 28 Gorffennaf 2009

Diolch i bawb ymunodd gyda ni dros y penwythnos i ddathlu G?yl Archeoleg Prydain yma yn y Pentref Celtaidd ac Eglwys Sant Teilo. Buodd pawb yn brysur yn creu murluniau yn y t? crwn. Mae’r t? yn edrych dipyn mwy lliwgar bellach. Buodd eraill ohonoch draw gyda Tracey a Nia yn yr Eglwys yn profi sut gafodd y murluniau yno eu creu. I’r rhai ohonoch gollodd y digwyddiadau, cofiwch bod yr ?yl yn parhau y penwythnos hwn, 1-2 Awst.

Ian Daniel

Swyddog Addysg, Dehongli a Cyfranogiad
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.