Hafan y Blog

Helpu Cymru yn ystod y dirwasgiad

Michael Houlihan, 13 Hydref 2009

Bore yma, ynghyd a’r Gweinidog Treftadaeth Alun Ffred Jones, mi fyddaf yn lawnsio papur trafod diweddaraf Amgueddfa Cymru – Cyfraniad cadarnhaol i fywyd y genedl yng nghanol dirwasgiad. Mae’r papur wedi datblygu o dros flwyddyn o ymchwil, ac mae’n esbonio sut mae Amgueddfa Cymru yn chwarae rhan flaenllaw yn cefnogi economi Cymru ynghyd a chyrraedd craidd cymdeithas sydd yn gwerthfawrogi ein bod yn amddiffyn ei hunaniaeth unigryw.

Y neges glir yr ydym eisiau i bobl Cymru fod yn ymwybodol ohoni ydi ein bod yn fwy na dim ond casgliad o adeliadau ac eitemau. Mae’n gwaith yn digwydd ym mhob cornel o Cymru, drwy ein casgliad allestyn, ein hymchwil a’n gwaith gyda patneriaethau. Rydym hefyd yn cynnig cyfleodd i bobl Cymru fod yn rhan o’n gwaith. Mae nifer o gyfloedd i wirfoddoli, o brofiad gwaith i leoliadau gwaith i wirfoddoli a prentisiaethau sydd yn creu cyfleodd gwerthfawr pam mae drysau eraill yn cau.

"Rydym hefyd eisiau atgoffa pawb fod mynediad am ddim i’r holl amgueddfeydd cenedlaethol"

Rydym hefyd eisiau atgoffa pawb fod mynediad am ddim i’r holl amgueddfeydd cenedlaethol. Ar adeg pan all prisiau mynediad wahaniaethu yn erbyn pobl sydd wedi’u heffeithio waethaf gan y cyni ariannol, rydym ni’n cynnig profiadau fforddiadwy, sy’n codi’r ysbryd y gall pobl eu mwynhau ar eu liwt eu hinain neu gyda ffrindiau a pherthnasau.

i ddarllen copi o’r papur trafod. Os oes gennych unrhyw sylwadau, cwestiynnau neu syniadau, fe fyddem wrth ein bodd clywed gennych fel plis gadewch sylw ar y blog. Cofiwch alw nol yma i glywed sut aeth y lawnsiad, ac i glywed sut ymateb gafwyd i’r papur trafod.

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.