Dychwelyd gweddillion ysgerbydol Maori adref
16 Tachwedd 2009
,Mae heddiw’n ddiwrnod arbennig yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, gyda seremoni breifat yn cael ei chynnal ar gyfer paratoi gweddillion ysgerbydol 12 Maori ar gyfer cael eu dychwelyd adref o Gymru i Seland Newydd. Dyma’r tro cyntaf mae’r Amgueddfa wedi cynnal seremoni o’r fath, a credaf ei bod yn bwysig fod y gweddillion yn cael eu dychwelyd adref. Mae’r seremoni yn sicr yn wahanol iawn i’r math yr ydyn yn arfer eu gweld yma! Mae’r seremoni, sy’n rhan o Karanga Aotearoa - awdurdod mandad llywodraeth Seland Newydd sy’n trefnu dychwelyd gweddillion Mäori ar ran y Mäoriaid, yn para tuag awr. Cyn i’r gweddillion gael eu lapio, bydd galwad yn cael ei llafarganu fel cydnabyddiaeth i’r k?iwi tangata. Wedyn caiff y köiwi tangata eu cyfarch.
Ar ôl gweddi i gloi, bydd pob cyfrannwr i’r seremoni yn cyffwrdd trwynau ac yn taenu d?r dros eu pennau a’u cyrff. Rwyf yn fawr obeithio y bydd hyn yn rhoddi cyfle i ni ddatblygu perthynas gyda’r Amgueddfa Te Papa ar gyfer cydweithio’n mhellach yn y dyfodol.
sylw - (1)
Dear Mr. Houlihan
Congratulations on your appointment to Te Papa.
Regards,
Thomas Morgan.
Wellington, New Zealand