Hafan y Blog

Ymwelwyr i'r cuddfan adar

Hywel Couch, 23 Tachwedd 2010

Wrth i adar y goedwig dod yn gyfarwydd gyda'i amgylchedd newydd, mae'r bwydwyr tu fas i'r cuddfan wedi bod yn brysur dros ben. Ar adegau mae'r bwydwyr bron wedi ei orchuddio gan amryw o titws, sy'n cael ei ymuno gan telor y coed, ji-bincs a robin goch achlysurol. Pob hyn a hyn mae cnocell fraith fwyaf yn ymddangos hefyd, yn gorfodi i'r adar llai cuddio am munud neu ddwy.

Mae'r cuddfan nawr bron iawn yn barod i agor i'r cyhoedd, dal y bwriad i agor cyn diwedd y mis. Os ydych yn meddwl am ymweld a'r cuddfan, cofiwch i wisgo rhywbeth gynnes, mae hi gallu bod yn oer uffernol ar adegau. Hyd yn oed yn well, dewch a fflasg o de gyda chi!

Mae'r cuddfan yn lle gwych i tynnu lluniau o bywyd gwyllt, dyma rhai rydyn ni wedi tynnu o adar gwahanol yn bwydo tu fas i'r cuddfan.

Hywel Couch

Uwch Swyddog Addysg, Cyfranogiad a Dehongli
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.