Hafan y Blog

Mae�r Bwdh�u cynifer a gronynnau tywod afon y Ganges: Arysgrif yn Baodingshan, Dazu, OC 1177-1249

Dafydd James, 16 Mawrth 2011

Mai 2010. Dwi’n sefyll ar bwys y pen mwyaf dwi erioed wedi’i weld. Wedi’i gerfio mewn tywodfaen a’i baentio, mae’n perthyn i Fwdha anferth sy’n lledorwedd yng nghanol teml ogof Baodingshan.  Baodingshan, ‘Copa’r Trysorau’, yw’r mwyaf syfrdanol o’r 75 safle teml wedi’u cerfio o garreg sy’n ffurfio Safle Treftadaeth y Byd Dazu yn ne-orllewin Tsieina. Mae 10,000 o ffigurau unigol i’w gweld yn y graig dywodfaen 500m, gafodd eu cerfio rhwng OC1177 a 1249.

Mae’n brofiad aruthrol. Dwi’n methu â chredu cymaint oedd yr uchelgais ar gyfer y safle Bwdhaidd; y dychymyg soffistigedig a’i cynlluniodd; a sgiliau’r artistiaid a’i cerfiodd. Rydw i yma gyda fy nghydweithiwr Steve Howe i gynllunio arddangosfa o gerfiadau Dazu yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd tua dechrau 2011, a dwi’n pendroni sut ydyn ni’n mynd i gyfleu hud y llefydd hyn i’n hymwelwyr ni.

Yr ymweliad yma â Dazu yw fy nhro cyntaf yn ôl yn Tsieina ers i mi dreulio cyfnod yn gweithio yma tua chanol y 1980au. Mae Tsieina wedi newid yn aruthrol wrth gwrs, ac mae cyflymdra’r newid yn dwyn anadl dyn bron cymaint â’r bwyd Sichuanaidd chwilboeth (y gorau yn Tsiena, yn fy marn i) mae ein lletywyr hael yn ein hannog i’w fwyta bob cyfle posib. Ond, er gwaetha’r newidiadau eraill, mae’r pethau pwysicaf, sef y bobl gymdeithasol, a’u balchder o’u treftadaeth ddiwylliannol ragorol, yma o hyd.

Yn ystod ein hwythnos gyda’n cydweithwyr yn Amgueddfa Cerfiadau Carreg Dazu, rydyn ni wedi datblygu cyfeillgarwch cynnes llawn ymddiried, ac rydyn ni wedi sylweddoli y bydd gennym ni gyfle i greu rhywbeth arbennig iawn yn ôl yng Nghaerdydd. Wedi’r cyfan, mae Dazu yn cynrychioli sbri mawr olaf celf mewn temlau ogof, a dyw’r trysorau o gyfnod llinach y Song (OC960-1279) ddim wedi cael eu gweld tu allan i Tsieina o’r blaen.

 

Yn ôl yng Nghymru fach, roedd y tîm arddangosfeydd yn barod am yr her, ac fe lwyddon nhw, o dan bwysau amser sylweddol, i gyfleu drama a thangnefedd ymweliad â theml ogof wedi’i cherfio mewn carreg. Mae harddwch eithriadol y cerfiadau – sy’n ysbrydol ac yn arbennig o ddynol ar yr un pryd – yn sefyll allan. O blith nifer o hoff ddarnau, byddwn yn dewis ffigur myfyriol Zhao Zhifeng, dylunydd safle Baodingshan, ac i’r gwrthwyneb yn hollol, y teulu o gymeriadau o feddrod sy’n cynnwys y tad difrifol, y fam hyfryd, a dau o blant drwg. Ond, mae’r lle blaenaf yn mynd i Fwdha Sakyamuni. Mae’r Bwdha yn ei holl ogoniant awdurdodol ac urddasol yn croesawu’r ymwelwyr i’r arddangosfa ac yn rhoi canolbwynt arbennig o ysbrydol i’r profiad.

 Roeddwn i’n arbennig o falch o weld bod y canlyniadau wedi plesio ein cydweithwyr Tsieineaidd, a hefyd o weld brwdfrydedd ymwelwyr o bob lliw a llun, boed y rheini o Gaerdydd neu Tsieina, yn arbenigwyr neu’n blant ysgol. Peidiwch â phoeni os yw’r holl ffigurau a’r syniadau Bwdhaidd, a’r syniadau Conffiwsaidd a Taoaidd sy’n plethu â nhw, yn ormod i chi. Mwynhewch y sioe, a chofiwch am arysgrif arall yn Dazu sy’n cyfleu symlrwydd Bwdhaeth: ‘o ddeall yn glir; gwelir nad oes dim i’w ddeall’.

Andrew Renton, Pennaeth Celf Gymwys, Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Dafydd James

Pennaeth y Cyfryngau Digidol
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.