Hafan y Blog

Da na na na na... bat cam! bat cam!

Danielle Cowell, 26 Gorffennaf 2011

Dewch i weld camera ystlumod Sain Ffagan, lle gallwch chi wylio Ystlumod Pedol Lleiaf yn magu eu cenawon. Mae’r camera yn adeiladau’r Tanerdy a gellir ei weld bob dydd o fis Ebrill hyd fis Hydref.

Neu beth am alw draw i un o’n Diwrnodau Gweithgaredd Archwilio Natur pan fydd Hywel Couch wrth law i ateb cwestiynau am ystlumod ac adar. http://tinyurl.com/3z5a2q5

Os taw gwylio ystlumod wedi iddi nosi sy’n mynd â’ch bryd, archebwch le ar ein taith ystlumod deuluol. http://www.amgueddfacymru.ac.uk/cy/digwyddiadau/?event_id=5029

Heddiw, ar ôl gosod goleuadau Is-goch newydd i wella’r ddelwedd ar y camera, llwyddom i gyfri tua 50 ystlum, ac roedd 20 yn fabanod a anwyd dros yr haf.

Yr wythnos diwethaf, mynychodd tîm o arbenigwyr ystlumod gwrs arbenigol dan arweiniad Wildwood Ecology. Yn ystod y cwrs, recordiwyd 6 math gwahanol o ystlum sy’n byw ar y safle yn cynnwys: Ystlum Pedol Lleiaf, Ystlum Natterer, Ystlum Adain-lydan, Ystlum Soprano Lleiaf, Ystlum Hirglust ac Ystlum y D?r.

Danielle Cowell

Rheolwr Addysg, Cyfranogiad a Dehongli (ALRC)
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.