Hafan y Blog

Blwyddyn Newydd o Archwilio Natur yn Sain Ffagan

Hywel Couch, 10 Ionawr 2012

Y peth cyntaf i’w wneud eleni yw dymuno Blwyddyn Newydd Dda i bawb! Roedd 2011 yn flwyddyn brysur iawn i’r project Archwilio Natur yma yn Sain Ffagan. Cafodd y project ei lansio’n swyddogol ym mis Ebrill, gydag amserlen lawn o ddigwyddiadau drwy gydol y gwanwyn a’r haf oedd yn cymryd golwg fanylach ar fywyd gwyllt diddorol yr Amgueddfa. 

Diolch yn fawr i bawb ddaeth i gymryd rhan yn ein digwyddiadau gan wylio adar yn y guddfan, chwilio am fadfallod d?r yn y pwll neu wylio’r ystlumod pedol lleiaf drwy ein camera is-goch. Peidiwch â phoeni os methoch chi’r digwyddiadau, bydd cyfleon eto yn ddiweddarach yn y flwyddyn. Bydd rhagor o fanylion yn ymddangos ar dudalennau Digwyddiadau. http://www.amgueddfacymru.ac.uk/cy/digwyddiadau/?site=stfagans 

 

Mae’r guddfan adar yn dal yn agored i ymwelwyr wrth gwrs. Mae’n leoliad gwych i ymlacio a gwylio adar y goedwig yn bwydo wrth i chi gerdded llwybr y goedwig. Dwi’n si?r bod yr adar yn gwerthfawrogi’r bwyd gan ei bod hi’n aml yn anodd iddyn nhw ganfod bwyd yn y gaeaf, â hithau mor oer hefyd! Os yw’r guddfan braidd yn oer, gallwch chi wylio rhai o’r adar yn bwydo o gynhesrwydd y Cwt Natur yn Oriel 1, neu o gartref hyd yn oed. http://www.amgueddfacymru.ac.uk/cy/coedwig/gwylltgamerau/Bwydo_adar_gam/ 

Mae mis Ionawr yn amser delfrydol i chi ddysgu pa adar sy’n ymweld â’ch gerddi chi. Bydd yr RSPB yn cynnal eu Big Garden Bird Watch dros benwythnos 28-29 Ionawr. Beth am gymryd awr i wylio’r ardd a chofnodi pa adar sy’n ymweld. Gallwch chi gofrestru a dysgu rhagor ar wefan yr RSPB. http://www.rspb.org.uk/birdwatch/ 

Dyma ni’n manteisio ar y tywydd sych, ond gwyntog iawn y bore ‘ma i osod blychau nythu. Rydyn ni’n gobeithio denu Titwod Mawr i un blwch, a Robiniaid i’r llall. Mae camera yn y ddau, felly dylen ni gael lluniau da o unrhyw wyau a chywion os bydd yr adar yn cael eu denu. Byddwn ni’n rhannu unrhyw luniau gyda chi wrth gwrs! 

Os oes gennych chi ddiddordeb yn ein bywyd gwyllt ni a digwyddiadau natur yn yr Amgueddfa, gallwch chi ein dilyn ni ar Twitter ar www.twitter.com/Nature_StFagans neu anfonwch ebost at natur.sainffagan@amgueddfacymru.ac.uk

Hywel Couch

Uwch Swyddog Addysg, Cyfranogiad a Dehongli
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.