Croeso
29 Mawrth 2012
,Croeso i Ganolfan Ddarganfod Clore. I’r rheiny ohonoch sydd heb gamu drwy ein drysau dwbl eto, oriel ‘ymarferol’ ydyn ni ar lawr gwaelod Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.
Galwch draw i archwilio cannoedd o wrthrychau amgueddfa: pryfed, ffosilau, mwynau a gemau, penglogau anifeiliaid, crochenwaith Rhufeinig ac arfau o’r Oes Efydd (a llawer mwy!). Dyma gyfle i chi drin a thrafod rhai o’r 7.5 miliwn o wrthrychau fydd fel arfer yn cuddio yng nghrombil ein storfeydd.
Gall y gwrthrychau real yma ysbrydoli oedolion a phlant fel eu gilydd. Gydag amser, byddwn ni’n postio esiamplau o’ch ymatebion i’r casgliadau ac yn cynnig syniadau i chi fanteisio i’r eithaf ar yr oriel a’i chasgliadau.
Beth am ddod â’ch ‘gwrthrychau dirgel’ i’r oriel er mwyn i’n harbenigwyr eich helpu i’w hadnabod. Byddwn ni’n dangos ein ffefrynnau ar y blog ac yn gofyn i chi gynnig eich syniadau eich hun.
Welwn ni chi’n fuan!