Hafan y Blog

Lluniau Llon! Sesiynau Ffotograffiaeth Bywyd Gwyllt @AGC

Gareth Bonello, 30 Awst 2012

Dros y pythefnos diwethaf rydym ni wedi bod yn rhedeg gweithgareddau ar gyfer teuluoedd i'w wneud ag arddangosfa Ffotograffydd Bywyd Gwyllt y Flwyddyn Veolia yma yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.

Wnaeth dros 400 ohonoch chi gymryd rhan ac mai hi wedi bod yn bythefnos bendigedig o anturiaethau ffotograffig! Rydw i wedi bod yn brysur yn llwytho siwd gymaint o'r lluniau ag sy'n bosib i dudalen Flickr Clwb Ffoto AGC ac mae rhaid i mi ddweud eu bod nhw'n edrych yn wych! Mae'r lluniau ar y dudalen Flickr wedi eu trefnu i mewn i setiau ar ochr dde'r dudalen felly os wnaethoch chi gymryd rhan y cwbl sydd angen i chi wneud yw clicio ar ddyddiad eich ymweliad i'r Amgueddfa a chwilio am eich enw!

Mi fydd y lluniau yn cael eu harddangos ar y sgrin yng Nghanolfan Ddarganfod Clore yn yr Amgueddfa ar ddydd Sadwrn Medi'r 8fed felly os wnaethoch chi gymryd rhan yn y gweithdai dewch i weld eich lluniau yn cael eu harddangos yn yr Amgueddfa Genedlaethol!

Hoffwn ddiolch i Cat, Lauren a Catherine am wneud job mor dda o redeg y gweithgareddau a hoffwn ddiolch hefyd i bawb wnaeth cymryd rhan. Diolch!

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.