Hafan y Blog

Cynhadledd ExArc 2013

Sara Huws, 10 Ionawr 2013

Ma sbel ers i fi flogio o Sain Ffagan - yn anffodus ma coblyn yn y cyfrifiadur, a 'dyn ni heb ddod o hyd iddo fe eto. Dyna fy ymddiheuriad, gyda llaw, nad oes lluniau yn y cofnod hwn. Gobeithio 'dwi y byddan nhw'n ail-ymddangos yn fuan! Ta waeth - ymlaen at y pwnc o dan sylw:

Yr wythnos hon, bydd Amgueddfa Cymru a Phrifysgol Caerdydd yn cynnal cynhadledd 'ExArc' 2013. 'ExArc' yw'r enw cyffredinol am faes archaeoleg arbrofol, sy'n defnyddio technegau ymarferol i brofi damcaniaethau am fywyd yn y gorffennol. Maent yn edrych ar 'sut?' yn ogystal â phryd, y digwyddodd rhywbeth

Ma' gwaith archaeolegyddion arbrofol i'w ganfod yn y deunyddiau crai, y manylion lleiaf, a'r broses o ddysgu yn sgîl methiant, yn ogystal â llwyddiant. Gall eu hymchwil gwmpasu pynciau fel smeltio haearn yn defnyddio cyfarpar cyn-oesol; archwilio ac ail-greu dillad isaf hanesyddol; neu ddarganfod manylion ymarferol am fywyd bob-dydd yn y gorffennol.

Dwi'n lwcus iawn, am i mi gael dysgu llawer gan archaeolegyddion arbrofol dros y blynyddoedd diwethaf. Dwi'n falch, felly, eu bod am ddod yma i Sain Ffagan, fel rhan o'u hymweliad â Chaerdydd. Dy'n ni'n licio torchi'n llewys ac arbrofi gyda gweithgareddau hanesyddol yma yn Sain Ffagan - boed yn wneud clocsie i ddawnsio ynddyn nhw ar Galan Mai - felly dwi'n siwr y bydd llawer mwy i'w ddysgu gan ExArch.

Mae'r gynhadledd ei hun 'nawr yn llawn, ond bydd modd dilyn y drafodaeth ar hashnod #eauk2013. Wrth imi sgrifennu hwn, mae'r ffrwd twitter yn llenwi â phobl sy'n teithio i Gaerdydd o bob cyfeiriad. Os ydych chi'n mynychu, cofiwch ddod draw i ddweud helo. Bydd dim rhosyn gwyn yn fy ngwallt, ond fe fyddwch chi'n gallu fy adnabod, gobeithio, am fy mod yn gwisgo bathodyn enw...

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.