Hafan y Blog

Newid a Pharhâd

Sara Huws, 11 Gorffennaf 2013

Dwi newydd fod yn lloffa trwy'r dudalen blogie - dwi heb wneud ers sbel a mae'n wych gweld cymaint o flogwyr newydd, yn trafod pynciau newydd yma. Da iawn bawb!

Mae fy nghyfraniad i wedi bod braidd yn dameidiog, a dwi'n gobeithio y gallwch faddau hynny, annwyl ddarllenwyr.

Er ein bod ni wedi bod wrthi'n gwneud lot o waith caib a rhaw yma yn Sain Ffagan, mae'r rhan fwyaf ohono di bod y 'tu ôl i'r llen' - gwaith technegol, manwl, efo darnau mawr iawn o bapur, yn hytrach na gwrthrychau. 'Dyn ni wedi bod wrthi yn cynllunio, yn gwerthuso a chofnodi, ac yn fuan iawn y byddwn ni'n dechrau gweld newid go-iawn ar y safle yn ei sgîl. 

Gwaith is-adeiledd ydi'r rhan fwyaf o'r hyn yr ydym wedi ei gwblhau, yn ogystal ag astudio dichonoldeb defnyddio signal 3G a wifi ar ein safle coediog, eang. 'Dyn ni hefyd wedi bod yn gweithio gydag ymgynghorydd mewn hygyrchedd, i ddysgu sut y gallwn ni wneud yr amgueddfa'n le mwy croesawgar i amrywiaeth fwy eang o bobloedd. 

Ein bwriad ni yw i gadw naws arbennig yr amgueddfa, ond i wella'r cyfleusterau hefyd. 'Dyn ni'n trio bod mor agored a chyfranogol â phosib, felly 'dyn ni wedi bod yn gwrando ar farn gwahanol grwpiau mewn fforymau i bobl ifanc, athrawon a chrefftwyr. Mi fyddwn ni'n ail-wampio'r orielau hefyd, a dwi'n edrych ymlaen at gael gweld pa wrthrychau 'mae fy nghyd-weithwyr wedi eu dewis ar gyfer yr arddangosfeydd newydd.

Yn y cyfamser, liciwn i gadw mewn cysylltiad â chi trwy'r blog - ond sut?

A ddylwn i sgrifennu mwy am hanes yr adeiladau sydd yma'n barod? Neu ddangos yr rhai newydd wrth iddynt dyfu?

Ddylwn i adrodd y straeon mawrion, neu hanes y rhyfeddode dyddiol? Beth am ein cynllunie i gynnal nosweithie preswyl a pherfformiadau? Mwy o Duduriaid? Llai o Duduriad?

Dwi'n credu'n gryf y dylwn i ofyn, os nad ydw i'n gwybod. Felly dyma ofyn i chi:

  • Beth hoffech chi ei weld ar y blog 'ma?

Gadwch sylw os oes barn neu gais gennych chi - dwi'n edrych ymlaen at gael clywed beth sydd gennych i'w ddweud.

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.