Hafan y Blog

Golwg ar y Casgliadau Diwydiant

Mark Etheridge, 1 Gorffennaf 2014

Ymhlith caffaeliadau newydd mis Mehefin oedd teledu lliw a theletestun Sony ‘Trinitron’ 14” gyda theclyn rholi o bell. Cynhyrchwyd y set gan Sony ym 1995 ym Mhencoed, Pen-y-bont. Edrychwch ar flog mis Rhagfyr i weld teledu arall a gyrhaeddodd yn ddiweddar.

 

Daw’r sampl hon o lechen o chwarel Maenofferen, Blaenau Ffestiniog. Byddai’r sampl yn cael ei hanfon i gwsmeriaid posibl i ddangos lliw a safon y garreg a gloddiwyd yn y chwarel. Mae sawl gwythïen lechi yng nghyffiniau Blaenau Ffestiniog a phob un ag enw unigryw; Llygad Newydd, Hen Lygad, Llygad Cefn, a Llygad Mochyn. Daw’r sampl hon o Lygad Cefn Chwarel Maenofferen.

 

Rydyn ni wedi derbyn casgliad hyfryd o 91 ffotograff yn rhodd, â’r mwyafrif yn dangos gwaith ailddatblygu’r Bwrdd Glo Cenedlaethol yng Nglofa Glyncorrwg yn y 1950au. Mae tair golygfa i’w gweld yma. Tynnwyd y ffotograff cyntaf ar 11 Medi 1951 cyn i’r gwaith ddechrau gan edrych ar hyd y dyffryn i’r gogledd.

 

Mae’r ddau lun nesaf yn dangos y gwaith ailadeiladu. Yn y cyntaf gwelwn nenbont gylch ar 1 Tachwedd 1955 ac yn yr ail mae gwaith yn mynd rhagddo ar offer pen y pwll ar 6 Chwefror 1957.

 

 

 

Ar 17 Mai 1965 achosodd llosgnwy ffrwydrad yng Nglofa Cambrian, Cwmclydach gan ladd 31 o lowyr. Roedd y pwll wrthi’n cael ei gau a llawer o’r gweithlu wedi’u symud, felly gallai llawer mwy fod wedi marw. Dyma glawr blaen rhaglen y gwasanaeth coffa a gynhaliwyd ar 17 Mai 2014, ac arno gwelwn yr offer pen pwll mewn gardd goffa.

 

 

Mark Etheridge

Curadur: Diwydiant a Thrafnidiaeth

Dilynwch ni ar twitter - @IndustryACNMW

 

Mark Etheridge

Prif Guradur Datblygu Casgliadau: LHDTC+
Gweld Proffil
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.