Hafan y Blog

#fflachamgueddfa

30 Gorffennaf 2014

Mae partneriaeth rhwng Amgueddfa Stori CaerdyddAmgueddfa Cymru a Cronfa Dreftadaeth y Loteri yn ceisio creu fflach amgueddfa wedi eu llywio’n gyfan gwbl gan aelodau’r cyhoedd sydd gyda rhywbeth i’w ddweud am Gaerdydd.

Bydd y themâu, y cynnwys a’r modd y mae’n cael ei arddangos yn cael eu penderfynu gan y cyhoedd a bydd yn cael ei greu a’i arddangos yng Nghanolfan y Mileniwm, Caerdydd, o 9 - 12 Hydref. Gall unrhyw un ymweld, ac un ai helpu i’w greu neu ei weld, a hefyd cael y cyfle i roi ei gwrthrych a’u stori hwy fel rhan o’r arddangosfa!

Dros y ddau fis nesaf byddwn yn cynnal nifer o weithdai fel bod pobl yn cael y cyfle i glywed sut y gallant for yn rhan o’r fenter hon, a darganfod mwy ynglŷn â sut y gall fflach amgueddfa weithio.

Bydd y gweithdai yn cael eu cynnal yn Amgueddfa Stori Caerdydd fel a ganlyn:

  • Sadwrn 30ain Awst, 11yb-1yh
  • Iau 11eg o Fedi, 6yh-8yh
  • Sadwrn 27ain o Fedi, 11yb-1yh

Byddwn yn cadw blog ac yn trydar drwy gydol y cyfnod hwn, felly bydd gyfle i bawb lle bynnag eich bod yn byw fod yn rhan o hyn, a sicrhau eich bod yn gweld sut mae’r cyfan yn datblygu a pha straeon mae pobl yn eu rhannu ynglŷn â Chaerdydd. #fflachamgueddfa

sylw (1)

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.
Tracey
26 Medi 2014, 12:42
Billy the seal was a she. They didn't know this to after Billy died.