Hafan y Blog

Myfyrwyr o Oman yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Katie Mortimer-Jones, 14 Awst 2014

Mae dwy fyfyrwraig blwyddyn olaf mewn bywydeg ac amddiffyn cnydau o Brifysgol Sultan Qaboos, Oman wedi cyrraedd Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ar gyfer pythefnos o brofiad gwaith i ddysgu mwy am nodi dau grŵp o bryfed, pryfed a chwilod a'r technegau a ddefnyddiwn i’w hastudio. Dyma’r tro cyntaf i Sara Mohamed Ahmed Al Ansari a Salma Saif Salmin Almabsli deithio y tu allan i Oman. Ar ôl y pythefnos yma, byddent yn treulio pythefnos arall yn yr Amgueddfa Hanes Natur, Llundain i ehangu eu gwybodaeth o dechnegau tacsonomig cyn dychwelyd at y cynhesrwydd yn Oman.

Katie Mortimer-Jones

Uwch Guradur: Anifeiliaid Di-asgwrn-cefn Morol
Gweld Proffil
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.