Hafan y Blog

Cregyn, Crafangau a Chanolfan Siopa

Sara Huws, 20 Awst 2014

Mi ddechreues i sgrifennu post hir am orielau, ond beth ddois i yma i'w ddweud yw: dw i wedi mwynhau arddangosfa Mi Wela i... Natur yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, sydd ar agor tan fis Ebrill 2015. Bob tro dw i wedi ymweld, mae'r lle wedi bod yn llawn teuluoedd, sgyrsiau, a phlant wedi gwisgo fel gwyddonwyr a thrychfilod, yn sboncio o un cesyn arddangos i'r llall.

Llun clou iawn o flaen un o'n gweithgareddau rhyngweithiol, er mwyn ceisio osgoi amharu ar breifatrwydd ein hymwelwyr!

Rho Mi wela i... Natur gyfle i ni weld y byd o safbwynt gwyddonydd, ystlum a phry. Yn wir, cyn belled â dy fod o dan 10, galli wisgo i fyny fel un cyn archwilio'r sbesimenau o'r casgliad trychfilod, cwrel wedi'i brintio ar argraffydd 3D, cwisiau rhyngweithiol a gweithgareddau. Mae'r sgrîn feicroscôp ryngweithiol enfawr soniodd David amdani yn ei flog yn eistedd o flaen wal wydr brydferth o sleidiau, o'r 100 mlynedd diwethaf. I'r rhai ohonoch sy'n hoffi chwarae labordy, mae yna feicroscôp gwyddonydd ar gael hefyd, gyda bwrdd troelli llawn sleidiau i'w harchwilio.

Mae'r tîm Mi Wela i... wedi bod yn teithio ar hyd Cymru gyda'u gwrthrychau hynod - er enghraifft, dyma @CardiffCurator yn gafael mewn gwrthrych anarferol iawn yn yr Eisteddfod:

 

Bydd Fflach-Amgueddfa Mi Wela i... yn ymddangos am y tro olaf eleni, yng nghanolfan siopa Capitol yng Nghaerdydd, rhwng y 28ain a'r 30ain o Awst. Ymysg y gemwaith, y paneidiau a'r sêl-diwedd-tymor, cewch ddarganfod sgorpionau, bwystfilod bychain, ac wrth gwrs, cragen sy'n fwy na'ch pen! Galwch heibio rhwng 11am a 3pm i weld beth welwch chi!

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.