Hafan y Blog

#fflachamgueddfa - Y stori hyd yma

22 Medi 2014

Dyma ddiweddariad am ein prosiect fflach amgueddfa.

Rydym yn creu fflach Amgueddfa ynglyn a Chaerdydd, gyda Amgueddfa Stori Caerdydd, gyda cefnogaeth Cronfa Dreftadaeth y Loteri, ar gyfer Cynhadledd Cymdeithas yr Amgueddfeydd yng Nghaolfan y Mileniwm, Caerdydd, ar 9-10 Hydref. Cyn i ni ei greu, rydym wedi gofyn i bobl Caerdydd a thu hwnt i’n helpu i gasglu straeon a gwrthrychau.

Cyn belled, rydym wedi cynnal 3 gweithdy yn Amgueddfa Stori Caerdydd. Rydym wedi casglu dros 30 o straeon Caerdydd ar ffilm a chardiau stori a wedi gweld gwrthrychau gwych a gwahanol sydd i gyda a rhywbeth i’w ddweud am Gaerdydd yn eu ffordd unigryw eu hunain. Mae’r broses wedi dod a phobl ynghyd i drafod a rhannu eu straeon am Gaerdydd. 

Cynhaliwyd y gweithdy diweddaraf yn Amgueddfa Stori Caerdydd rhwng 6-8yh ar 11 o Fedi. Roedd caws, gwin a diodydd ysgafn ar gael i ychwanegu at awyrgylch gymdeithasol y noson. Erbyn diwedd y sesiwn, roedd 20 o bobl wedi picio i mewn a rhannu eu straeon. Fe aethom a camera fideo allan ar y stryd a ffilmio 20 voxpop gan grwp amrywiol o bobl! Roedd rhai yn hynod o ddigri, a byddent yn cael eu dangos yn ystod y fflach Amgueddfa yng Nghaolfan y Mileniwm.

Y Gwrthrych Cyntaf

Corgi polystyren oedd y gwrthrych cyntaf i ni ei dderbyn. Roedd wedi cael ei adael allan gyda'r sbwriel ar stryd yn y Rhath - ond cafodd ei achub, ei olchi, ac mae bellach yn byw yn hapus gyda ei berchnogion newydd mewn ystafell fyw yng Nghaerdydd.

Cynllunio’r fflach amgueddfa

Fel mae’r nifer o storiau a gwrthrychau Caerdydd yn tyfu, tyfu hefyd mae’r angen i ni feddwl ynglyn a sut mae arddangos yr hyn sydd weid ei gasglu. Bydd y Fflach Amgueddfa yn symud i Ganolfan y Mileniwm ar y 9-10 Hydref ar gyfer Cynhadledd Cymdeithas yr Amgueddfeydd felly bydd yn rhaid iddo fod yn hyblyg ac yn hawdd i’w greu.

Rydym wedi dechrau mynd drwy storfa Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd am gasus, silffoedd, seddi, unrhywbeth! Dyma gasgliad o beth rydym wedi ei ddarganfod:

  • Bwrdd mawr lle gall pobl eistedd a trafod eu straon. Un syniad o ran arddangos yw rhoddi bocsus clir ar y bwrdd, a’u rhoddi ar ben ei gilydd fel bod yn arddangosfa yn tyfu dros ddeuddydd.
  • Ambell i gas hyfryd sydd ar hyn o bryd yn yr orielau celf cyfoes yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. Bydd hyn yn caniatau i ni arddangos gwrthrychau o Amgueddfa Stori Caerdydd a’r casgliadau cenedlaethol sydd yn dweud rhywbeth am Gaerdydd yng Nghanolfan y Mileniwm.
  • Mwy o seddi! Rhai eithaf neis allan o ddefnydd llwyd.
  • Ac yn olaf…Billy y Morlo!

Nid ydym yn siwr eto os fydd Billy’n cael dod gyda ni i Ganolfan y Mileniwm, ond rydym yn ceisio gweld os bydd yn bosibl. Mae ysgerbwd Billy wedi bod yn rhan o gasgliadau Amgueddfa Cymru er y 1940au. Daeth Billy i Gaerdydd yn 1912, pan ddarganfu pysgotwyr ef yn eu rhwydi. Cafodd yr enw Billy cyn canfod cartref newydd yn Llyn Parc Fictoria.

Yn ol y son, fe wnaeth Billy ddianc pan fu llifogydd a nofiodd lawr Cowbridge Road. Ar y ffordd, stopiodd mewn siop bysgod leol ac archebu ‘dim sglodion, dim ond pysgodyn os gwelwch yn dda’. Aeth yna i’r Admiral Napier am beint, hanner o ‘dark’, ond cafodd ei ddal a dychwelodd i’r llyn.

Wyddo ni ddim os yw hyn yn wir, ond mae nifer o drigolion lleol yn taeru eu bod.

Dilynwch y blog hwn i ganfod os caiff Billy ddianc eto!

Gwybodaeth bellach

Gweithdy nesaf y fflach Amgueddfa

27 Medi 11.00yb-1.00yh, Amgueddfa Stori Caerdydd

Am fwy o wybodaeth ynglyn a chreu fflach Amgueddfa dilynwch y linc yma (Saesneg yn unig):

http://popupmuseum.org/pop-up-museum-how-to-kit/

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.