Hafan y Blog

Mae’r Wefan yn Newid

Chris Owen, 11 Rhagfyr 2014

Os ydych chi wedi bod yn pori’n tudalennau Ymweld ac Addysg yn ddiweddar, mae’n siwr ichi ddod ar draws tudalennau sy’n edrych yn wahanol. O’r 9ed o Ragfyr 2014 ymlaen, rydym am dreialu rhannau o wefan Amgueddfa Cymru ar ei newydd wedd.

Ymweld â'r Hafan

Mae angen eich adborth chi arnom ni, i wneud yn siwr ein bod ni’n creu’r tudalennau gorau posibl. Os na weithiodd rhywbeth yn ystod eich ymweliad; os oedd unrhywbeth yn anodd i’w ddefnyddio; unrhyw ran o’r tudalennau’n eich drysu neu wybodaeth yn anodd i’w ganfod; neu os oes unrhyw beth yr hoffech chi ein gweld ni’n ei ddiwygio: rhowch wybod i ni. Wrth gwrs, os oes unrhyw beth ‘rydych chi’n ei hoffi am y tudalennau newydd, mi fyddwn yn falch iawn o glywed gennych hefyd!

Anfon Adborth

Pam diweddaru’r wefan?

Wrth i ni archwilio’r hen wefan, mi ddaethom ni o hyd i sawl ardal yr oeddem ni eisiau eu caboli a’u diweddaru.

Un o’n prif amcanion yw ein bod ni’n cyflenwi’r wybodaeth berthnasol i chi, yn gyflym ac yn ddi-ffws. Rydym ni am wneud hyn trwy wella cynnwys y wefan, symleiddio’r profiad gwe-lywio, a thwtio rywfaint ar y tudalennau.

Ein bwriad yw bod pori’r tudalennau newydd yn brofiad cyfoes, ffresh - a bod y wefan yn gweithio’n dda beth bynnag fo’r dechnoleg - ffôn symudol, llechen, rhaglen darllen sgrîn, neu gyfrifiadur desg. Mae ymweld â saith safle ein hamgueddfeydd yn brofiadau unigryw ac felly gobeithio ein bod ni’n adlewyrchu rhywfaint o hynny ar ein gwefan hefyd.

Dim ond rhai ffyrdd o wella’n gwefan yw’r rhain. Fe fyddwn ni’n gwneud rhagor o waith ar y safle yn yr wythnosau a misoedd sydd i ddod.

O’n blaen yn 2015

Yn ystod hanner cyntaf 2015 mi fyddwn yn diweddaru a chaboli rhagor o ardaloedd y wefan. Bydd tudalennau newydd am ein Casgliadau, ein gwaith curadurol a’n gwasanaethau llogi yn ymddangos, yn ogystal â’r blog a siop ar-lein.

Mi fyddwn ni’n sicrhau fod pob ardal o’r wefan gystal ag y gallith fod, trwy wrando ar, a dysgu gan, ddefnyddwyr ein gwefan.

Bydd eich adborth a’ch mewnbwn chi, felly, yn rhan allweddol o wella’r safle. Dim ond y dechrau yw hyn.

Diweddariad 1 - 16 Ionawr 2015

Diolch yn fawr i bawb a anfonodd adborth atom ni dros yr wythnosau diwetha. Mae’r rhestr o fygs a drwsiwyd yn rhy hirfaith i’w bostio yma, ond dyma restr o’r prif bethau ‘dyn ni wedi eu newid:

Digwyddiadau:

  • Rydym wedi ychwanegu golwg calendr at ein tudalennau digwyddiadau - nawr, mae modd chwilio digwyddiadau yn ôl dyddiad.
  • Ychwanegu opsiwn golwg ‘holl safleoedd’, sy’n dangos digwyddiadau ein holl amgueddfeydd ar un dudalen.
  • Newid rhagosodiad y tudalennau digwyddiadau, fel eu bod yn ymddangos fel rhestr yn gyntaf.
  • Mae dewisiadau golwg a dyddiad nawr yn ‘ludiog’, felly fyddan nhw ddim yn ail-osod wrth i chi bori digwyddiadau.

Blog - Dyma’r blog ar ei newydd wedd. Gobeithio y byddwch chi’n ei hoffi e!

Chwilio’r Wefan - Rydym ni wedi trwsio nifer o linciau oedd wedi torri. Rydym ni wedi gwella sut y mae canlyniadau chwilio yn ymddangos ar ffôn symudol.Diweddaru Cronfeydd Data Casgliadau - Cronfeydd Data Paleontoleg, Mwnyddiaeth Cymru, Molygsiaid, Fertebratiaid ac Infetibrata Môr oll wedi’u hail-gynllunio a’u diweddaru

Chris Owen

Rheolwr Datblygu Digidol

sylw (29)

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.
Chris Owen Staff Amgueddfa Cymru
4 Chwefror 2015, 15:34

Hi Jackie,

Sorry you didn't find what you were looking for. The site you were using must've had a link to the old site which didn't match up exactly. By selecting 19th February I was able to see the Model Railway Show event:

http://www.museumwales.ac.uk/slate/whatson/?date_range=2015-02-19

Update: I've modified our handling of older What's On links to alleviate this. Old links to listings for an individual museum or to an specific event should now take you to the correct place on the new site.

Hope this helps,
Chris

Jackie Leslie
3 Chwefror 2015, 18:46
I was meant to be re-directed from one site by clicking the link to the model railway event 19-22nd feb - link didn't work- I ended up with this clicked on the 19th feb and the event wasn't listed so not much use - I had to mess around going via google - not a great start J
Chris Owen Staff Amgueddfa Cymru
2 Chwefror 2015, 16:21

Sarah,
Thanks for your kind words about the new site. We're really glad you liked it!

Jo,
We think we've replicated the problem you had with the position of the Menu button and fixed it. If you have any more problems, don't hesitate to send us an email and we'll investigate.

Susan,
I'm pleased to say we've added information about suitability for families back to the What's On listing pages, so you won't need to click through to each event. I hope this helps!

Dafydd,
Diolch eto. Lliw y botwm "Anfon sylw" wedi cael ei newid nawr i fod mwy ddarllenadwy.

Thanks again to everyone for your valuable feedback. There'll be a full update soon, but work is continuing on every area of the website.

Chris

Jo Crane
30 Ionawr 2015, 18:28
I found the rolling pages a bit distracting and some of the parts didn't fit on my screen which is a wide one, for example Menu on the top right. I found it quite difficult to navigate my way around. I just wanted a more simple introduction to the museum to plan my visit.
Sarah Griffith
29 Ionawr 2015, 17:13
I love the new site - I've found out more than I ever have about the Museum, staff and collections by browsing for a few minutes ahead of my visit tomorrow. I went on a bit of an unintended journey - which i guess is the purpose of an interactive site. The blogs are great, did want to see a few more pics of the actual artwork to give flavour of the Artes Mundi Exhibition - but have enough info to want to visit. Good job - whoever designed it!
Jasmine
29 Ionawr 2015, 11:55
I agree with James. I'm viewing this on a W8 tablet and I am interested in suggesting a visit to St Fagans to some friends (we're all English) in April. I'm looking at the Highlights page and don't want to scroll down through screeds of pretty photos, past the odd bit of textual content. I'd like a page that lists in actual words the reasons why we might enjoy visiting. Maybe a couple of small photos as encouragement.
Dafydd Tomos
28 Ionawr 2015, 16:16
Diolch Chris. Dwi'n meddwl mod i wedi danfon y neges gynt heb orffen yn iawn (mae'n amhosib gweld y botwm 'Anfon sylw' am ei fod yn wyn ar gefndir llwyd golau!). Mae'n dda gweld eich bod yn defnyddio cyfnod 'beta' i gael ymateb am fod hyn yn gallu bod yn ffordd hwylus o gael adborth 'go iawn' heb wario gormod o arian/amser.
Chris Owen Staff Amgueddfa Cymru
27 Ionawr 2015, 17:11

Diolch am dy adborth, Dafydd. Dyn ni'n dal i weithio ar fireinio llywio'r wefan, a sut y mae'n ymateb i sgriniau o wahanol faint, gan ddefnyddio analytics, mapiau gwres ac adborth fel y gadawaist ti uchod.

Yn ystod yr wythnos ddiwetha, mi gysonwyd 'header' sawl ardal, fel 'Amdanom Ni' a Chelf ar-lein. Ychwanegwyd linciau 'nôl i'r hafan sydd â brandio fwy amlwg. Mi fyddwn ni'n edrych yn fwy manwl ar roi ddewislen 'hamburger' yn yr ardaloedd hynny, i wella'r cysondeb llywio ymhellach.

Symleiddio llywio'r wefan yw un o'n prif amcanion, er mwyn galluogi defnyddwyr i ganfod y cynnwys maen nhw'n ei gyrchu mewn ffordd gryno. Oystyried maint ac amrywiaeth y cynulleidfaoedd sy'n ymweld â'r wefan, falle na fydd y gydbwysedd yn iawn bob tro - rydym ni'n ystyried y pwncyma'n ofalus iawn ar hyn o bryd, a byddi'n gweld rhagor o newidiadau maeso law. Diolch eto.

Dafydd Tomos
26 Ionawr 2015, 12:02
Mae'r diwyg newydd yn dda ond i gael y gorau o'r deunydd ar y wefan mae wir angen darllen ar sgrin eitha mawr. Ond mae llywio'r wefan wedi ei greu ar gyfer sgrin fach yn unig sy'n eitha od.

O fynd fewn i unrhyw adran dwi'n teimlo ar goll - mae brand yr Amgueddfa yn diflannu a mae'r llywio yn anghyson. Dwi ddim yn hoff o'r botwm 'dewislen' sydd ddim yn ffordd amlwg o lywio nol i'r hafan neu adrannau eraill (a mae'n dyblygu y dewisiadau ar y chwith). Mae'n ffordd eitha anghyfarwydd o lywio gwefan. Ar rai adrannau mae'r dewislen yn diflannu a botwm dewis iaith yn ei le, felly mae'n anghyson
Kris
22 Ionawr 2015, 22:31
The website site looks very stylish but I'm not sure it's as user friendly as the old one. I enjoy going to different types of events at the museum but they now seem harder to find. It would be great not only to have events listed by month but also to have search filters. For example, search under 'science' , 'crafts' etc or by visitor type eg adults or children. I also liked the old add to calendar option. Perhaps, there could be suggestions for ''other events that might interest you' perhaps interlinked between the museums.