Hafan y Blog

Gaeaf yn troi’n Wanwyn

Penny Dacey, 9 Chwefror 2015

Helo Gyfeillion y Gwanwyn,

Rwy am rannu ambell lun gyda chi. Cofiwch, os gofynnwch i’ch athro neu athrawes yrru lluniau o’ch planhigion i mi, gallaf eu rhannu gydag ysgolion eraill sy’n rhan o’r project! Mae gen i ddiddordeb mawr mewn lluniau sy’n dangos y newid mewn tymhorau – fel blodau’r gwanwyn yng nghanol eira’r gaeaf!

Gwe pry cop gaeafol yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

Cennin Pedr yn Sain Ffagan. Allwch chi weld pa blanhigion sydd â blagur, a pha rai sydd wedi blodeuo?

Cennin Pedr yn Sain Ffagan. Allwch chi weld pa blanhigion sydd â blagur, a pha rai sydd wedi blodeuo?

Mae rhywfaint o ddryswch wedi bod ynghylch pryd i gofnodi dyddiad blodeuo ar-lein. Gallwch fonitro taldra eich planhigion bob wythnos a gadael i mi wybod yn yr adran ‘sylwadau’ wrth i chi gofnodi’r tywydd. Ond dim ond wedi i’r planhigyn flodeuo y dylech gofnodi ‘dyddiad blodeuo’ a thaldra’r planhigyn ar ddiwrnod blodeuo.

Edrychwch ar y llun uchod o Gennin Pedr yn Sain Ffagan. Cafodd y llun ei dynnu ar ddiwrnod oer, felly nid oedd y blodau wedi agor yn llawn. Ond, gallwch weld pa rai sydd wedi blodeuo trwy edrych yn ofalus. Os yw’r holl betalau i’w gweld yn glir yna mae’r planhigyn wedi blodeuo. Cyn blodeuo mae’r petalau yn cael eu gwarchod gan gasyn tynn fel hwn:

Blagur yw hyn.

Blagur yw hyn. Pan fydd y blodyn wedi aeddfedu, a’r tywydd yn ddigon cynnes, bydd y casyn yn dechrau agor. Gall hyn gymryd ychydig oriau neu rai dyddiau! Efallai y gallwch weld hyn yn digwydd, os wnewch chi wylio’r planhigion yn ofalus iawn! Pan fyddwch yn gallu gweld yr holl betalau a’r casyn wedi disgyn gallwch fesur taldra’r blodau a chofnodi hyn ar y wefan. Wedi i chi wneud hynny bydd blodyn yn ymddangos ar fap yn dangos lle mae eich ysgol.

Gallwch fesur uchder eich planhigion i weld pa mor sydyn mae nhw’n tyfu. Os yw’r planhigion yn dal yn fach gallwch eu mesur o dop y pridd. Ond, pan fyddwch yn mesur er mwyn cofnodi ar y wefan, dylech fesur o dop y pot blodau i bwynt uchaf y blodyn.

Ydych chi wedi cymharu uchder y blodau yn eich dosbarth? Oes yna wahaniaeth mawr yn uchder y planhigion a pha mor aeddfed ydyn nhw, neu ydyn nhw i gyd yn debyg? Beth am y planhigion sydd wedi’u plannu yn y ddaear? Yw’r rhain yn fwy na’r rhai mewn potiau? Pam hynny tybed? Gallwch ddweud beth ydych chi’n feddwl yn yr adran ‘sylwadau’ wrth i chi gofnodi’r tywydd yr wythnos hon!

Gyrrwch eich straeon a lluniau i’r blog blodau a dilynwch Athro’r Ardd ar Twitter!

Daliwch ati Gyfeillion y Gwanwyn!

Athro’r Ardd

O.N. Peidiwch â phoeni os nad yw eich planhigion wedi dangos eto. Mae’n dal yn gynnar ac rwy’n sicur bydd yn gwneud cyn bo hir! Rhwy'n dal yn aros am rai o'n planhigion i dangos uwchben y pridd...

Mae fy Nghennin Pedr a Chrocws yn tyfu hefyd !!

Penny Dacey

Cydlynydd Project Bylbiau'r Gwanwyn i Ysgolion
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.